Ffermwyr yn yr Almaen yn protestio ynghylch cwtogi ar gymorthdaliadau
Mae ffermwyr yn yr Almaen wedi bod yn protestio ers nifer o wythnosau yn erbyn bwriad llywodraeth yr Almaen i leihau cymorthdaliadau. Mae gan lywodraeth yr Almaen fwlch o €17 biliwn yn ei chyllideb ac mae wedi penderfynu lleihau cymorthdaliadau i ffermwyr fel un o’i mesurau i fantoli’r cyfrifon.
Mae ffermwyr yn dweud y byddai cymryd cam o’r fath yn eu rhoi mewn trafferth ariannol.
Mae’r protestio wedi arwain at flocio nifer o draffyrdd a chanol dinasoedd, gan gyrraedd ei anterth gyda rali o 30,000 o ffermwyr a 5,000 o dractorau ym Merlin.
Yn dilyn y protestio mae llywodraeth yr Almaen wedi gwyrdroi rhai o’r toriadau, ond mae’r glymblaid sy’n rheoli wedi penderfynu ers hynny i gadw at ei chynlluniau i leihau cymorthdaliadau i ffermwyr, gan olygu bod mwy o brotestio ar raddfa fawr yn debygol.
Prisiau bwyd yn debygol o godi yn sgil trafferthion yn y Môr Coch
Mae rhai o brif archfarchnadoedd y DU yn rhybuddio y gallai prisiau bwyd godi oherwydd yr ymosodiadau gan yr Houthis ar longau yn y Môr Coch.
Mae amserau a chostau siwrneiau yn cynyddu’n ddramatig am fod llongau’n gorfod defnyddio llwybrau teithio gwahanol o amgylch Penrhyn Gobaith Da yn Ne America. Ar ben hyn, mae prisiau tanwydd wedi codi 4% hefyd oherwydd y sefyllfa yn y Môr Coch.
Amcangyfrifwyd y bydd y llwybr teithio gwahanol yn ychwanegu 8-9 diwrnod at siwrnai’r llongau ac yn costio dros £750,000 am bob trip draw ac yn ôl.
UE yn pleidleisio i wahardd y defnydd o dermau hyrwyddo sy’n dibynnu ar wrthbwyso carbon
Mae’r UE yn bwriadu gwahardd nifer o dermau a ddefnyddir i hyrwyddo cynhyrchion fel rhai sy’n ystyriol o’r amgylchedd pan fydd cwmnïau’n defnyddio gwrthbwyso carbon fel tystiolaeth i gefnogi’r honiadau hyn.
Pleidleisiodd aelodau’r Senedd Ewropeaidd i wneud y defnydd o’r termau hyn yn anghyfreithlon, a dim ond labeli cynaliadwyedd sy’n defnyddio cynlluniau ardystio cymeradwy a ganiateir yn yr UE.
Mynegwyd pryderon am y defnydd o wrthbwysiadau i gadarnhau honiadau amgylcheddol, ac mae’r cam hwn wedi’i ddisgrifio fel un sy’n atal gwyrddgalchu.
Mae termau megis ‘hinsawdd-niwtral’ neu ‘hinsawdd-bositif’, sy’n seiliedig ar wrthbwyso CO2 wedi’u gwahardd yn gyfan gwbl, ac mae gan yr aelod-wladwriaethau ddwy flynedd i roi’r rheolau newydd ar waith.