Yn dilyn y newyddion trychinebus bod cwmni dur TATA’n bwriadu cau ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot, dywedodd Gweinidog Economi Cymru, Vaughan Gething wrth raglen Today Radio 4: “Whilst change is required, this is … about jobs ...about steel being a sovereign asset …about whether this really will reduce emissions if you’ve still got to have blast furnace steel produced in another part of the world…my worry is that we could have a plan today that transfers Welsh workers’ jobs and Welsh emissions to another part of the world…[UK Government] need to recognise that if Levelling Up ever meant anything, it surely cannot mean the loss of 2,500 direct well paid jobs, many more within the wider economy.”
Mae UAC yn cefnogi’r farn hon yn llwyr, ac yn cytuno bod angen dod o hyd i ddull pontio gwell ar gyfer diwydiant sydd mor bwysig i Bort Talbot, Cymru a’r DU.
Ond bydd y rhai sydd wedi darllen papur Llywodraeth Cymru ‘Effeithiau Economaidd Posibl y Cynllun Ffermio Cynaliadwy’ wedi sylwi ar y tebygrwydd brawychus rhwng effeithiau cynigion cwmni dur TATA â’r rhai a amlinellir gan Lywodraeth Cymru yn ei hymgynghoriad diweddaraf ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Mae’r Papur yn awgrymu y bydd cynigion Llywodraeth Cymru’n arwain at ostyngiad yn y Gofynion Llafur Safonol ar ffermydd sy’n cyfateb i 2,564 o swyddi. Nid yw’r ffigur hwn yn cynnwys swyddi pellach a gollir yn y gymuned ehangach, sy’n debygol o gynyddu’r ffigur hwn yn sylweddol, o ystyried bod y model yn cynnwys tua hanner y rhai sy’n derbyn cymorth i ffermwyr yn unig, ond serch hynny mae’n amcangyfrif 11% o ostyngiad yn y niferoedd da byw – gan olygu bod angen llai o lawer o wasanaethau megis milfeddygon fferm a masnachwyr bwyd anifeiliaid.
Mae’r adroddiad yn awgrymu y byddai eu cynlluniau’n arwain at ostyngiad trychinebus yn incwm cyfartalog busnesau fferm yng Nghymru, sydd eisoes yn isel, rhwng £6,800 a £9,300. O ran ffermydd da byw yr iseldir, oedd â’r lefelau incwm isaf yn 2021-22, mae’r modelu’n awgrymu y byddai hyn yn golygu bod incwm cyfartalog fferm deuluol yn gostwng, o £26,500 i ychydig dros £20,000.
Mae’r adroddiad hefyd yn cydnabod y gallai incwm ffermydd ostwng ymhellach yn sgil y cynllun a rheolau eraill Llywodraeth Cymru, gan ddweud: “Bydd elfennau dewisol eraill o’r SFS i’r dyfodol yn golygu costau cydymffurfio pellach, sy’n golygu, hyd yn oed os bydd taliadau yn cyfateb i daliadau’r BPS, bydd yr effaith net ar FBI yn llai. Fel y modelwyd, gofynnir i ffermwyr gyflawni rhagor (e.e. o ran darpariaeth amgylcheddol) am oddeutu’r un lefel o arian cymorth. …, gallai’r cyfle i wneud addasiadau dynamig gael eu cyfyngu gan gyfyngiadau polisi eraill, megis y rheoliadau rheoli llygredd.”
O ystyried y gostyngiad a ragwelir yn y niferoedd da byw, mi allai rhai, o leiaf, o blith y rhai sy’n awyddus i dyfu mwy o gnydau âr a llysiau yng Nghymru weld ffordd ymlaen - ond mae cynigion presennol Llywodraeth Cymru’n tanseilio unrhyw gynlluniau o’r fath, drwy gloi cannoedd o filoedd o aceri o dir a ddefnyddiwyd unwaith i dyfu cnydau âr a llysiau yn dir ‘cynefin’ na ellir ei aredig.
Eto mi ddylai bwyd - boed yn llysieuyn neu’n anifail - fel y dur a gynhyrchir, gael ei drin fel yr hyn a ddisgrifir gan Mr Gething yn “sovereign asset”. Rydym eisoes yn mewnforio tua 50% o’r bwyd a fwyteir gennym, ac mae natur fregus ein cyflenwad bwyd wedi dod yn fwy amlwg nag erioed o ganlyniad i’r rhyfel yn Wcráin a’r prisiau bwyd uwch a welwyd yn sgil hynny.
Roedd Mr Gething yn llygad ei le yn tanlinellu pa mor annerbyniol y byddai hi i drosglwyddo “…Welsh workers’ jobs and Welsh emissions to another part of the world”. Ond byddai cynigion presennol Llywodraeth Cymru’n arwain at yr union sefyllfa honno. Mae gan ein dull o gynhyrchu bwyd yng Nghymru un o’r olion troed carbon ac amgylcheddol isaf yn y byd, felly mae modelu Llywodraeth Cymru’n awgrymu mai’r cyfan y bydd eu cynigion yn ei wneud yw trosglwyddo swyddi ac allyriadau i fannau tu allan i’r DU.
Mae UAC bob amser wedi cymryd yn ganiataol y bydd ein Llywodraeth yng Nghymru’n gweithio er budd y boblogaeth gyfan, ond mae rhai o’n haelodau’n teimlo nad yw’r egwyddorion cadarn a fynegwyd mor ddeheuig gan Mr Gething yn cael eu rhoi ar waith mewn ardaloedd gwledig, sy’n cynnwys llai o lawer o gynrychiolwyr o’r Blaid Lafur - ond does bosib y byddai unrhyw un yn caniatáu i’r fath ystyriaethau ddylanwadu ar eu penderfyniadau pan mae swyddi pobl yn y fantol.
Mae UAC wrthi ar hyn o bryd yn ystyried cynigion diweddaraf Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, a sut y gellir eu gwella i atal y difrod economaidd difrifol i gymunedau gwledig y mae Mr Gething yn iawn yn poeni amdano yng nghyd-destun Port Talbot.