Gwrthwynebu cynllun i symud gwiriadau bwyd o Dover
Mae cynlluniau gan Lywodraeth y DU i symud gwiriadau ar fwydydd all fod beryglus sy’n cyrraedd y DU, a gynhelir ar hyn o bryd ym mhorthladd fferïau bwysicaf y DU yn Dover, i gyfleuster yn Sevington, 22 milltir i ffwrdd, wedi cael eu beirniadu’n hallt.
Mae awdurdodau porthladd Dover wedi cyhuddo Defra o beryglu bioddiogelwch ac iechyd y cyhoedd ym Mhrydain drwy symud y rheoliadau. Mynegwyd pryderon am y ffordd y bydd y nwyddau hyn yn cael eu rheoli yn ystod y siwrnai 22 milltir o’r pwynt mynediad yn Dover i Sevington.
Mae Cyngor Dosbarth Dover ac Awdurdod Iechyd y Porthladd (DPHA) yn annog y llywodraeth i ohirio’r cynlluniau, gan fygwth cymryd camau cyfreithiol. Mae DPHA yn amcangyfrif y byddai o leiaf 3,500 o lwythi o gynnyrch bob mis, sydd angen ei wirio i sicrhau ei fod yn ddiogel, yn cael gadael y porthladd heb ei hebrwng.
Ffermwyr Sbaen yn rhoi pwysau ar y llywodraeth
Yn dilyn protestiadau gan ffermwyr yn Sbaen, mae Gweinidog Amaeth Sbaen wedi cyhoeddi y bydd y llywodraeth yn symud ar unwaith i dawelu eu cwynion am y baich gweinyddol maent yn ei wynebu. Cytunodd y gweinidog i gael gwared â’r gofyniad i gadw ‘llyfr nodiadau digidol’.
Roedd y system ‘llyfr nodiadau digidol’ yn adnodd a orfodwyd ar ffermwyr i gadw cofnod o’u gweithgareddau, megis defnydd o chwynladdwyr a dyfrhau.
Bydd yr adnodd yn un gwirfoddol bellach, a bydd ffermwyr yn cael ‘eu hannog’ i’w ddefnyddio drwy gymhelliannau sydd heb eu pennu eto.
Prisiau bwyd y byd yn gostwng yn 2023
Dangosodd Mynegai Prisiau Bwyd cyffredinol Sefydliad Bwyd ac Amaeth (FAO) y Cenhedloedd Unedig 2023 ostyngiad o un flwyddyn i’r llall yn 2023 o’i gymharu â 2022.
Ar gyfer 2023 yn gyfan gwbl, roedd y mynegai 13.7% yn is na lefelau blynyddoedd cynharach ar gyfartaledd, efo prisiau siwgr yn unig yn uwch dros y cyfnod hwnnw.
Roedd y gostyngiadau mwyaf ym mhrisiau olewau llysiau, gyda chwymp o 13.7% dros y flwyddyn gyfan.
Roedd mynegai prisiau cig yr FAO i lawr 1.8% o un flwyddyn i’r llall, ac roedd y mynegai prisiau llaeth i lawr 16.1% o flwyddyn gynharach.