Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi codi £17,509 i Ambiwlans Awyr Cymru yn ystod ei hwythnos brecwast ffermdy flynyddol yn Ionawr (15 – 21 Ionawr 2024).
Cynhaliwyd dros 35 o ddigwyddiadau ledled Cymru, gydag aelodau a gwleidyddion fel ei gilydd yn mwynhau’r cynnyrch brecwast blasus, maethlon a chynaliadwy oedd ar gael, tra’n trafod y materion ffermio diweddaraf gyda staff a swyddogion UAC ar yr un pryd.
Cafodd UAC wythnos frecwast arall lwyddiannus, a hoffai’r undeb ddiolch i’r holl staff, aelodau, gwirfoddolwyr a gwleidyddion ledled Cymru am eu cefnogaeth anhygoel. Gyda’n gilydd rydym wedi llwyddo i godi swm anhygoel ar gyfer yr elusen hynod bwysig hon, sydd wrthi bob dydd yn achub bywydau ledled Cymru.
Yn ogystal â chodi swm anhygoel o arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru, cafodd UAC gyfle hefyd i dynnu sylw at y rôl hanfodol a chwaraeir gan ffermwyr Cymru yn cadw olwynion yr economi wledig i droi, a pha mor eang yw dylanwad ein diwydiant. Dylem gofio’r holl resymau sy’n gwneud ffermio mor bwysig – yn economaidd, yn amgylcheddol, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol.
Heb ddiwydiant ffermio ffyniannus, sy’n sicrhau bod bwyd ar ein byrddau y gall pobl ei fforddio, mi fyddai’n dyfodol ni a dyfodol ein plant yn un diflas iawn.
Dywedodd Dr Sue Barnes, Prif Weithredwr Elusen Ambiwlans Awyr Cymru:
“Hoffem ddiolch o galon i UAC a’i haelodau sy’n codi arian ac yn codi ymwybyddiaeth o’n helusen.
“Rydym yn hynod ymwybodol o bwysigrwydd ein gwasanaeth i gymunedau gwledig ac amaethyddol yng Nghymru. Fel gwasanaeth ar gyfer Cymru gyfan, ein nod yw darparu’r gofal achub bywyd gorau posib ledled y wlad, ond gan gydnabod anghenion amrywiol ein cymunedau gwledig a threfol ar yr un pryd.
“Mae ein helusen yn gweithio’n galed i sicrhau bod ein gwaith hanfodol yn parhau, nid ar gyfer heddiw’n unig ond ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yn ogystal. Mae ein hymrwymiad a’n cysylltiad â chefn gwlad Cymru yn un hynod o gryf, ac mi fydd yn parhau felly.
“Rydym hefyd yn cydnabod ac yn diolch am y cyfraniad amhrisiadwy a wneir gan y gymuned ffermio i’r gymdeithas yng Nghymru, yn ogystal â’r cynnyrch safonol sy’n cael ei fwynhau yma yng Nghymru a ledled y byd.”