Newidiadau i’r Isafswm Cyflog Amaethyddol o 1af Ebrill 2024

O 1af Ebrill 2024 cafodd Gorchymyn Cyflog Amaethyddol (Cymru) 2023 ei ddisodli gan Orchymyn 2024, gyda newidiadau’n dod i rym. 

O 1af Ebrill:

  •   Mae’r cyfraddau tâl isaf ar gyfer pob gradd o weithiwr wedi cynyddu. 
  •   Mae’r holl lwfansau (gan gynnwys lwfansau cŵn) wedi cynyddu 8.5%.
  • Bellach mae’r gyfradd am oramser yn 1.5 gwaith cyfradd fesul awr go iawn gweithiwr amaethyddol, yn hytrach na’r gyfradd fesul awr berthnasol ar gyfer gweithiwr amaethyddol.

Mae’r bandiau oedran ar gyfer graddau A a B dan y Gorchymyn hefyd wedi’u diwygio i adlewyrchu’r newidiadau a wnaed mewn perthynas â’r Cyflog Byw Cenedlaethol, sydd bellach yn daladwy i weithwyr 21 oed ac iau.

Cafodd y cynnydd i’r cyfraddau cyflog ei argymell gan y Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru.

Mae’r cyfraddau tâl isaf a’r lwfansau, a’r holl delerau ac amodau lleiaf ar gyfer gweithwyr amaethyddol, gan gynnwys y rhai sy’n gweithio o fewn y sectorau garddwriaeth a choedwigaeth, wedi’u gosod dan Orchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2024. 

Mae mwy o wybodaeth a chanllawiau ar gael ar: https://www.llyw.cymru/y-panel-cynghori-ar-amaethyddiaeth-cymru

https://www.llyw.cymru/cyflogau-amaethyddol-cyfraddau-tal-isaf