Cafodd mesurau newydd yn gofyn bod ceidwaid adar yn cofrestru eu hadar yn swyddogol, beth bynnag yw maint eu haid, eu cyhoeddi ar 19 Mawrth 2024.
Ar hyn o bryd, dim ond ceidwaid gyda mwy na 50 o adar sy’n gorfod cofrestru eu haid.
Bydd y newidiadau a gyhoeddwyd yn gwneud hi’n orfodol i geidwaid, beth bynnag yw maint eu haid, i gofrestru eu hadar yn swyddogol cyn y dyddiad cau, sef 1af Hydref yng Nghymru (a Lloegr), gyda cheidwaid yn yr Alban yn gorfod cofrestru cyn1af Medi 2024. Bydd ceidwaid hefyd dan ofyniad cyfreithiol i ddiweddaru eu gwybodaeth yn flynyddol.
Mae’r rheoliadau’n berthnasol i bob math o ddofednod, gan gynnwys ieir, hwyaid, tyrcwn, gwyddau, colomennod (a fegir am eu cig), cetris, adar gwastatfron (ratites), ieir gini a ffesantod. Fodd bynnag, mae adar anwes fel bwjis, parotiaid a rhywogaethau tebyg sy’n byw yn y cartref ac yn methu â mynd allan i’r awyr agored wedi’u heithrio rhag y gofynion cofrestru newydd.
Trwy gofrestru, bydd Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn gallu cysylltu â cheidwaid os bydd yna achos/achosion o glefyd (megis ffliw adar neu glefyd Newcastle) yn eu hardal. Bydd gwella’r cyfathrebu a sicrhau bod ceidwaid yn derbyn diweddariadau pwysig am achosion o glefydau, a gwybodaeth am reolau bioddiogelwch, yn helpu i amddiffyn heidiau rhag clefydau yn y dyfodol, a fydd yn ei dro yn helpu i fonitro rheolaeth a lledaeniad clefydau adar hysbysadwy yng Nghymru a ledled y DU.
Gall ceidwaid fynd ati’n wirfoddol i gofrestru heidiau neu adar caeth eraill, gan gynnwys unrhyw rai a gedwir fel adar anwes, cyn 1af o Hydref drwy:
- Ffonio’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ar 03000 200 301 a gwneud cais dros y ffôn
- Defnyddio’r gwasanaeth ar-lein Cofrestru fel ceidwad llai na 50 o ddofednod neu adar caeth eraill
- Dychwelyd eu ffurflenni IRA81 neu IRA82 wedi’u llenwi (dolen isod)) drwy e-bost neu drwy’r post:
Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA)
Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid Caerdydd
Cromlin West
Parc Busnes Cardiff Edge
Longwood Drive
Yr Eglwys Newydd
Caerdydd
CF14 7YU
Mae ffurflenni cais ar gael ar y wefan Dofednod ac adar caeth eraill: rheolau a ffurflenni cofrestru neu isod: