Cyswllt Ffermio’n cynnig 17 o gyrsiau hyfforddiant newydd

Mae Cyswllt Ffermio wedi cyhoeddi bod 17 o gyrsiau hyfforddiant newydd wedi’u hychwanegu at eu rhaglen hyfforddiant o fis Ebrill.  Mae 120 o gyrsiau ar gael bellach, gyda chymhorthdal o hyd at 80% i unigolion sydd wedi cofrestru.

Un o’r cyrsiau newydd sydd ar gael erbyn hyn yw BASIS FACTS – Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr Gwrtaith

, sy’n ymdrin ag arferion gorau wrth ddefnyddio gwrtaith a rheoli maethynnau, gan alluogi ymgeiswyr i roi cyngor ar gynhyrchu cnydau mewn ffordd gynaliadwy, sy’n amddiffyn yr amgylchedd ac yn bodloni safonau’r diwydiant. .

Hefyd, mae yna gwrs undydd ar Waliau Cerrig Sychion a fydd yn addysgu hanfodion codi, a chynnal a chadw waliau cerrig sychion.  Mae cyrsiau eraill newydd yn cynnwys:

  • Cofleidio newid
  • Adfer Mawndiroedd 
  • Ffensio a Gosod Gât - Post a Weiren Straen
  • Cwrs undydd - Ymwybyddiaeth o Iechyd a Diogelwch mewn Gweithrediadau Coedwigaeth a Choetir ar gyfer Perchnogion Tir
  • Defnyddio Drôn a Thechnegau mewn Amaethyddiaeth 
  • Cynllunio Marchnata Digidol a Defnyddio Offer Digidol
  • Deall a defnyddio meddalwedd MTD (Making Tax Digital)  
  • Elite Wool Industry Training UK – cyrsiau cneifio (dechreuwyr ac uwch)  
  • Lefel 2 Lles Anifeiliaid wrth eu Cludo

Am fwy o wybodaeth:

https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/busnes/sgiliau-hyfforddiant/cyrsiau-hyfforddiant