Dosbarthu citiau DNA Cŵn i helpu i leihau ymosodiadau ar dda byw

Mae prosiect ymchwil fforensig newydd sy’n cael ei redeg gan Brifysgol John Moores Lerpwl yn gweithio gyda’r heddlu, milfeddygon a ffermwyr i wella’r broses o gasglu DNA cŵn sy’n troseddu oddi ar dda byw sydd wedi dioddef ymosodiad. 

Mae’r ymchwil hwn, sy’n cael ei arwain gan Dr Nick Dawnay, yn ffurfio rhan o’r Prosiect Adfer DNA Cŵn ehangach, sy’n anelu at ddatblygu a hyrwyddo dulliau arfer gorau, a’u rhoi ar waith i gasglu a dadansoddi DNA cŵn oddi ar dda byw a bywyd gwyllt sydd wedi dioddef ymosodiad.

Fel rhan o’r prosiect, bydd citiau tystiolaeth gynnar yn cael eu dosbarthu i 10 o luoedd heddlu ledled Cymru a Lloegr dros yr haf.  Mae’r citiau hyn, a gynlluniwyd at ddefnydd swyddogion, milfeddygon a ffermwyr, yn caniatáu casglu DNA yn gyflym o leoliad yr ymosodiad.

Mae ymosodiadau gan gŵn yn destun pryder cynyddol i ffermwyr am eu bod yn norm erbyn hyn.  Mae ymosodiadau gan gŵn ar dda byw yn arwain at niwed difrifol a marwolaeth anifeiliaid fferm bob blwyddyn, ac amcangyfrifir eu bod wedi costio £2.4 miliwn i ffermwyr Prydain yn 2023, yn ôl y ffigurau diweddaraf. 

Mae casglu samplau fforensig addas o leoliad ymosodiad gan gŵn ar ddefaid yn anodd, a gan nad oes unrhyw sicrwydd y gall tîm troseddau gwledig gyrraedd y lleoliad mewn pryd, mae hyn wedi arwain at ddatblygu’r citiau newydd hyn, a fyddai’n caniatáu i’r ffermwr gasglu DNA cŵn o leoliad yr ymosodiad a’i roi i’r heddlu. 

Mae deddfwriaeth newydd ar gyfer Cymru a Lloegr yn gwneud ei ffordd drwy’r Senedd ar hyn o bryd, a fyddai’n rhoi grym i swyddogion yr heddlu i gael sampl DNA o gi sydd dan amheuaeth, a’i gymharu gyda’r DNA a adawyd yn y lleoliad.  Mae’r citiau hyn yn ddatblygiad cyffrous iawn, a chyda digon o ddefnydd i allu cwblhau ymchwil digonol, y gobaith yw y byddant yn gallu helpu gydag achosion o’r fath, yn amodol ar eu dilysu a’u cymeradwyo gan System Cyfiawnder Troseddol y DU.