Hybu Cig Cymru yn chwilio am ffermwyr cig eidion o Geredigion a Sir Gaerfyrddin ar gyfer prosiect peilot

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi cyhoeddi prosiect peilot newydd, sy’n anelu at hybu proffidioldeb a chynaliadwyedd y sector cig eidion yng Nghymru.

Bydd y prosiect – Datgarboneiddio Cig Eidion Cymru PGI  - yn gwerthuso effaith pesgi gwartheg o fewn cyfnod magu byrrach ar elw economaidd ac allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr.

Mae HCC yn arwain y gwaith hwn ac mae wrthi ar hyn o bryd yn recriwtio cyfanswm o 50 o ffermwyr – 25 o Geredigion a 25 o Sir Gaerfyrddin – i gymryd rhan yn y prosiect, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Her ARFOR.  Mae’r manteision i’r rhai sy’n cymryd rhan yn cynnwys archwiliadau carbon am ddim, a dadansoddiad ariannol am ddim, a allai gynyddu elw busnesau fferm.

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â HCC ar 01970 625050 neu This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it., neu cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y prosiect.