RPW yn cyhoeddi diweddariad 2024 o’r canllaw ‘Pan ddaw’r archwilydd’

Mae Taliadau Gwledig Cymru wedi cyhoeddi diweddariad o’r canllaw ‘Pan ddaw’r archwilydd’ ar gyfer ffermwyr sy’n paratoi ar gyfer archwiliad.

Mae archwiliadau’n cymryd lle ar ganran o ffermydd bob blwyddyn i sicrhau bod ffermwyr yn cydymffurfio â rheolau a rheoliadau gofynnol sy’n amod ar gyfer derbyn cymorth ariannol, neu o ganlyniad i gadw da byw.

Bydd gweithredu ar y cyngor a geir yn y canllaw yn eich helpu i baratoi ar gyfer archwiliadau Trawsgydymffurfio, Cymhwysedd Tir, a chynlluniau cymorth amaethyddol.  Mae’n gosod yn glir y camau sydd angen ichi eu cymryd cyn i’r archwilydd alw, ac yn esbonio beth fydd yr archwilydd yn ei wneud yn ystod yr archwiliad.

Yn ogystal ag arweiniad ar sut i baratoi, a beth fydd yn digwydd yn ystod archwiliad ar eich fferm, er hwylustod, mae copïau o’r cofnodion fferm sy’n gysylltiedig â Thrawsgydymffurfio, a chynlluniau eraill wedi’u cynnwys yn y canllaw.  Mae pob cofnod yn cynnwys enghraifft wedi’i pharatoi er gwybodaeth.  Mae’r holl gofnodion ar gael ar-lein i ffermwyr gadw eu cofnodion fferm eu hunain.

Mae’r canllaw ar gael yma:

 https://www.llyw.cymru/archwiliadau-cynlluniau-fferm-canllaw-i-ffermwyr-argraffiad-2024