Y diweddaraf am Feirws y Tafod Glas (BTV)

Mae’r Grŵp Iechyd a Lles Anifeiliaid Cnoi Cil wedi darparu’r wybodaeth BTV ddiweddaraf (20fed Mai).  Maent yn cynghori y dylai ffermwyr a’r diwydiant barhau i fod yn wyliadwrus ac yn ofalus, a defnyddio tactegau sy’n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn gweithredu i liniaru effaith y straen diweddaraf, sef BTV-3.

Mae un brathiad gan un gwybedyn heintiedig yn ddigon i drosglwyddo BTV-3.  Mae hyn yn golygu nad oes unrhyw fudd i geisio rheoli gwybed, ac na fydd hynny’n cael unrhyw effaith ar drosglwyddo BTV-3.

Mae gweithgor technegol BTV yn argymell bod ffermwyr yn ymwybodol o’r ffeithiau a’u bod yn osgoi gwybodaeth anghywir, i atal unrhyw gamau gweithredu a chostau diangen.

Y sefyllfa ddiweddaraf yw bod y DU allan o’r cyfnod fector isel tymhorol.  Mae hyn am fod  gwybed yn cnoi mwy yn ystod y tywydd cynhesach yn y Gwanwyn.  Mi fydd yna gynnydd posib yn yr achosion o feirws y tafod glas dros y misoedd nesaf wrth i’r tywydd gynhesu, ac wrth i’r perygl y bydd gwybed sydd wedi’u heintio yn chwythu drosodd o Ogledd Ewrop gynyddu.

Yn y DU, mae Tafod Glas, gan gynnwys BTV-3, yn glefyd hysbysadwy, felly dylai unrhyw un sy’n amau bod ganddynt achos o’r clefyd roi gwybod ar unwaith i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).

Gwybodaeth bellach am sut i weithredu ar BTV-3 a’r wybodaeth ddiweddaraf:

Bluetongue Virus – Ruminant Health & Welfare (ruminanthw.org.uk)