Cyswllt Ffermio’n lansio modiwlau newydd i baratoi ffermwyr ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS)

Yn ddiweddar,  mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o fodiwlau ar-lein yn seiliedig ar arferion sy’n cynnal cynhyrchiant ac iechyd tir amaeth a da byw mewn ffordd gynaliadwy, i helpu ffermwyr Cymru wrth iddynt drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).

Bydd y gyfres achrededig o saith modiwl yn rhoi trosolwg i ffermwyr o gyfeiriad amaethyddiaeth yng Nghymru yn y dyfodol,

Mae’r modiwlau newydd yn cynnwys:

  • Cynllunio i Reoli Maethynnau
  • Gwella ffrwythlondeb pridd a chynyddu cynnyrch drwy gylchdroi cnydau, defnyddio tail gwyrdd, compostio, a thrin y tir cyn lleied â phosib
  • Ymwrthedd i wrthfiotigau
  • Ymwrthedd anthelmintig
  • Rheoli Plâu Integredig (IPM)

Pan fydd y rhai sy’n cymryd rhan wedi cwblhau pob un o'r saith modiwl byddant yn cael tystysgrif Gwobrau Lantra, a fydd yn cael ei safio’n awtomatig yn eu cyfrif Storfa Sgiliau, a bydd cofnod ar gael i’w weld neu’i lawr lwytho unrhyw bryd.

Gallwch gael mynediad i'r modiwlau drwy fewngofnodi i'ch cyfrif BOSS i weld yr holl fodiwlau 
e-ddysgu sydd ar gael, neu cysylltwch â'ch Swyddog Datblygu Cyswllt Ffermio lleol i gael mwy o wybodaeth.

Am fwy o wybodaeth ewch i:

 https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy