Cyhoeddi dau grant seilwaith fferm newydd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dau grant seilwaith fferm newydd gwerth £20 miliwn.  Y ddau gynllun i gynorthwyo ffermwyr i fodloni Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 yw’r Cynllun Buddsoddi Mewn Rheoli Maethynnau a’r Cynllun Grantiau Bach – Gorchuddio Iardiau.

Bwriad y naill gynllun a’r llall yw galluogi ffermwyr i fynd i’r afael â rheoli a storio maethynnau, drwy ddarparu cymorth ar gyfer cynyddu’r capasiti i storio slyri a/neu atal dŵr glaw rhag mynd i mewn i storfeydd slyri, i leihau’r gofynion storio.

Dyma’r dyddiadau ar gyfer Datganiadau o Ddiddordeb yn y cynllun:

Grantiau Bach – cynllun Gorchuddio Iardiau 

  • 20fed Mai 2024 – 28ain Mehefin 2024
  • Uchafswm y grant yw £12,000 a'r isafswm yw £3,000.
  • Mae'r grant yn darparu hyd at 40% o werth buddsoddiadau cyfalaf safonol wedi’u costio (ac eithrio TAW) y nodwyd ymlaen llaw eu bod yn cynnig buddiannau clir a mesuradwy i fusnesau fferm.

Y Cynllun Buddsoddi Mewn Rheoli Maethynnau 

  • 15fed Gorffennaf 2024 – 23ain Awst 2024
  • Darperir manylion pellach am y cynllun cyn i’r ffenestr ymgeisio agor

Mae Llywodraeth Cymru yn annog ymgeiswyr i ystyried buddsoddiadau posib cyn i’r ffenestri ymgeisio agor a lle bo’n briodol, ymgysylltu ag awdurdodau cynllunio lleol.  Dylid cyflwyno ceisiadau cynllunio a cheisiadau SuDS (System Ddraenio Gynaliadwy) cyn gynted â phosib; ni fydd cwblhau’r gwaith hwn cyn y ffenestr ymgeisio yn effeithio ar eich cymhwysedd i wneud cais.