Pryderon ynghylch prinder milfeddygon yn y DU
Mae pwyllgor Yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig y DU wedi ysgrifennu at ysgrifennydd DEFRA yn dweud bod y prinder milfeddygon domestig wedi gwaethygu ers yr 11.5% o ddiffyg a amcangyfrifwyd yn 2018.
Un pryder allweddol yw effaith y trothwy cyflog newydd ar gyfer y fisa Gweithiwr Crefftus, oherwydd dibyniaeth y DU ar filfeddygon o dramor. Mae’r trothwy isafswm cyflog ar gyfer milfeddygon yn £48,100 ar hyn o bryd.
Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn dweud y gallai hyn effeithio ymhellach ar yr adnoddau milfeddygol sydd ar gael i’r DU. Maent hefyd yn dweud bod yna ostyngiad sylweddol eisoes yn nifer y milfeddygon sydd wedi dod o dramor i weithio yn y DU dros y blynyddoedd diwethaf.
3.4 tunnell o gig anghyfreithlon wedi’i gipio ychydig ddyddiau cyn gwiriadau ffin newydd y DU
Mae Cyngor Dosbarth Dover wedi cipio 3.4 tunnell o gig anghyfreithlon ar y ffin ychydig ddyddiau cyn rhoi cam diweddaraf y Model Gweithredu Targed y Ffin (BTOM) ar waith.
Roedd y cynnyrch a gipiwyd yn cynnwys 54 o garcasau defaid heb eu marcio o ddau gerbyd o Rwmania, a oedd wedi teithio am nifer o ddyddiau dan amodau aflan ac mewn pecynnau anaddas (cling ffilm domestig anghyflawn, sachau duon a thâp glynu). Roedd y cig hefyd wedi’i gludo heb reoli’r tymheredd, gan groes-halogi bwydydd eraill, gan gynnwys rhannau mochyn, cyw iâr, cig eidion, a chawsiau gyda diferion gwaed.
Cafodd y cig anghyfreithlon ei gipio a’i dynnu o’r gadwyn gyflenwi yn Dover. Bu pryderon yn ddiweddar y gallai Clwy Affricanaidd y Moch ledaenu i’r DU o Ewrop gan fygwth cenfaint moch y DU.
Dadansoddiad AHDB yn awgrymu bod cig defaid Seland Newydd yn annhebygol o ddisodli cig defaid y DU yn yr UE
Mae dadansoddiad gan AHDB (Y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth) wedi datgelu bod y Cytundeb Masnach Rydd rhwng Seland Newydd a’r UE, a ddaeth i rym ar 1af Mai, yn annhebygol o ddisodli allforion o’r DU i’r rhanbarth. Mae’r dadansoddiad wedi amlygu nifer o ffactorau i leddfu pryderon allforwyr cig defaid o’r DU.
Cwympodd lefelau cynhyrchu cig defaid y UE yn 2023 a disgwylir iddynt gwympo ymhellach eleni, gan helpu i sefydlogi safle’r DU fel prif gyflenwr y farchnad hon. Mae gwahanol gynhyrchion a marchnadoedd y DU a Seland Newydd hefyd yn awgrymu na fydd cig defaid Seland Newydd yn disodli cig defaid y DU.
Yr UE yw farchnad fwyaf y DU ar gyfer cig defaid, gyda 79,700 o dunelli o gynnyrch ffres a chynnyrch wedi’i rewi yn cael ei allforio yno yn 2023, gwerth £524 miliwn. Dyma ail farchnad fwyaf cig defaid Seland Newydd, gyda 54,000 o dunelli o gynnyrch yn cael ei allforio i’r farchnad y llynedd.