UAC yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am y newid i’r mesurau difa gwartheg TB ar y fferm

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu’r newyddion bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, yn derbyn yn llawn yr argymhellion a gyflwynwyd iddo gan y Grŵp Cynghori Technegol newydd  ar gyfres o fesurau a fydd yn darparu hyblygrwydd mewn perthynas â difa gwartheg gyda TB ar y fferm.

Mae teuluoedd ffermio, sydd eisoes dan bwysau emosiynol ac ariannol yn sgil achosion o TB gwartheg, wedi bod yn eu dagrau oherwydd y profiad erchyll o wylio gwartheg yn cael eu difa ar fuarth y fferm.

Mae’n sicr yn newyddion i’w groesawu bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwrando ar bryderon y diwydiant, ac yn bwysicaf oll, wedi gweithredu drwy dderbyn yr argymhellion hyn yn llawn.

Cynhaliodd y Grŵp Cynghori Technegol (GCT) ei gyfarfod cyntaf ar 15 Ebrill dan arweiniad Yr Athro Glyn Hewinson, sydd hefyd yn gadeirydd Sêr Cymru, y Ganolfan Rhagoriaeth TB yn Aberystwyth.

Mae mwyafrif yr achosion o ddifa ar y fferm yn digwydd am fod gwartheg yn cael prawf TB positif yn ystod y cyfnod cadw o’r gadwyn fwyd am resymau meddyginiaethol.  Mae difa hefyd yn digwydd ar y fferm pan fydd buchod yn agos at loia neu o fewn yr wythnos gyntaf o loia, am na chaniateir eu cludo oddi ar y fferm dan y rheoliadau cludo anifeiliaid.

Cafodd UAC ei gwahodd i ddarparu tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig i’r GCT ei hystyried, ac mae’r Undeb yn falch bod ei gwaith wedi helpu i arwain at y newidiadau a gyhoeddwyd.

Roedd argymhellion UAC yn anelu at leihau nifer y gwartheg sy’n cael eu difa ar y fferm yn dilyn achosion o TB gwartheg, a darparu cymorth mewn amgylchiadau lle na ellir osgoi difa ar y fferm.

Mae UAC yn croesawu cyflymdra’r broses hon ac yn gobeithio y gellir rhoi’r camau hyn ar waith cyn gynted â phosibl i leihau’r achosion o ddifa ar y fferm.  Mae’r broses o ddifa’n cael effaith niweidiol hirdymor ar iechyd a lles ein teuluoedd ffermio.

Fodd bynnag, rhaid cofio bod yr angen i drafod y pwnc o liniaru erchylltra difa ar y fferm yn ymdrech i drin y symptom yn hytrach na mynd i’r afael â gwraidd y broblem, sef methiant difrifol y rhaglen gwaredu TB anobeithiol a fu ar waith yng Nghymru ers tro byd.

Mae UAC yn parhau i weithio mewn partneriaeth â’r GCT a rhanddeiliaid eraill i edrych ar ffyrdd eraill o wella’r rhaglen gwaredu TB er budd holl ffermwyr gwartheg Cymru.