Mae UAC wedi croesawu’r newyddion bod Llywodraeth Cymru am barhau gyda Chynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) i gefnogi ffermwyr Cymru ochr yn ochr â chyfnod paratoi’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) ar gyfer 2025.
Wrth ymateb i ddatganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, croesawodd UAC y datganiad a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet ar ddyfodol ffermio yng Nghymru, a’i gynlluniau i weithio mewn partneriaeth â’r diwydiant amaeth.
Ers yr ymgynghoriad diwethaf, mae UAC wedi galw’n gyson ar Lywodraeth Cymru i ymestyn y BPS ar y lefelau presennol ar gyfer y flwyddyn nesaf, o ystyried faint o newid sydd ei angen i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy o fewn yr amserlen dynn sydd ar gael.
Mae’r cyhoeddiad hwn ar gynnal y BPS ochr yn ochr â’r cyfnod paratoi ar gyfer yr SFS y flwyddyn nesaf yn gam mawr i’r cyfeiriad cywir. Bydd yn rhoi sefydlogrwydd i fusnesau amaeth ac yn sylfaen gadarn ar gyfer trafodaethau ystyrlon.
Datblygu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yw’r newid mwyaf arwyddocaol yn y polisi amaeth yng Nghymru ers degawdau. Mae’n galondid felly bod Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi na fydd y Cynllun yn cael ei gyflwyno nes ei fod yn barod.
Mae’r datganiad hefyd yn cyfeirio at barhau cynlluniau buddsoddi gwledig, gan gynnwys ystyried ymestyn Cynllun Cynefin Cymru a chymorth i amaethwyr organig.
Mae’n hanfodol ein bod yn osgoi unrhyw fylchau yn y cymorth yn ystod y cyfnod pontio o’r BPS i’r SFS sy’n sail i gynaliadwyedd economaidd busnesau ffermio. Croesawn felly barhad y gefnogaeth wrth i ni weithio i ddylunio Cynllun sy’n cyflawni ar gyfer busnesau amaeth, ein cymunedau gwledig a’r amgylchedd.
Er bod UAC yn croesawu’r datganiad, sy’n dangos parodrwydd i wrando, i weithio gyda’r diwydiant a chefnogi cefn gwlad Cymru, bydd yr Undeb yn aros i glywed y manylion llawn yn natganiad Ysgrifennydd y Cabinet yng nghyfarfod llawn y Senedd.
Bu llawer o rwystredigaeth o fewn y diwydiant dros y misoedd diwethaf, a bydd craffu ar y manylion yn hollbwysig wrth i’r gwaith hwn fynd rhagddo dros yr wythnosau nesaf.
Aelodau UAC yw calon y sefydliad a bydd yr Undeb yn parhau i wneud ei gorau glas i sicrhau’r canlyniadau gorau posib i’n ffermydd teuluol a’r diwydiant ehangach.