Bwrdd Crwn Gweinidogol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy’n cael ei groesawu, ond rhaid iddo sicrhau newidiadau ystyrlon, medd UAC

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu cyhoeddiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn amlinellu ei gynlluniau i greu Bwrdd Crwn Gweinidogol, a fydd yn ystyried y dystiolaeth, ac yn arwain y gwaith o ddatblygu Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) diwygiedig.

Mewn ymateb i’r datganiad, dywedodd Llywydd UAC, Ian Rickman:  “Un o’n gofynion allweddol yn dilyn yr ymgynghoriad oedd sefydlu grŵp bach o randdeiliaid i ganolbwyntio ar ddyluniad yr SFS, ac ystyried manylion gwahanol elfennau’r cynllun, ynghyd â’r cyfraddau tâl a’r gofynion cyllidebol cyffredinol.

“Rydym yn croesawu’r cyhoeddiad a wnaed heddiw felly, sy’n amlinellu cynlluniau i sefydlu grŵp o’r fath, a fydd yn ein darparu â phlatfform ffurfiol i archwilio ac ailwampio’r cynllun, i’w wneud yn briodol ar gyfer ffermwyr Cymru a’n cymunedau gwledig.

“Fodd bynnag, rwyf am ailadrodd y neges hon eto; mae angen gwneud llawer mwy na thwtio’r cynllun.  Mae angen ailfeddwl yn radical, a rhaid i’r grŵp hwn sicrhau newid ystyrlon o fewn yr amserlen dynn a roddwyd inni.”

Mae datganiad Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn pwysleisio mai un o dasgau cyntaf y Bwrdd Crwn Gweinidogol fydd edrych ar unrhyw gynigion pellach ac amgen i sicrhau mwy o ddal a storio carbon o fewn yr SFS.

“Mae’r datblygiad hwn yn un i’w groesawu hefyd, o ystyried yr angen brys i werthuso’r wyddoniaeth o ran sero net a dal a storio carbon i helpu i ddatblygu’r SFS.  Mae angen i’r elfen hon roi ystyriaeth i’r holl gamau y gall ffermwyr eu cymryd i wneud cynnydd tuag at sero net mewn ffordd gynaliadwy.

“Mae’r ymgysylltu a fu rhyngom ni fel Undeb ag Ysgrifennydd y Cabinet a’i swyddogion hyd yma wedi bod yn bositif, ac mae’r datganiad hwn yn adlewyrchu’r trafodaethau hynny.  Mae UAC yn barod i losgi’r cannwyll hyd yr oriau mân i sicrhau ein bod yn cyrraedd y lle iawn cyn diwedd y flwyddyn, fel bod y cynllun yn un ymarferol, yn economaidd ac yn amgylcheddol” meddai Mr Rickman i gloi.