Pwy yw’r Cardi yn y Cabinet?

Mae un o ffigyrau amlycaf y byd gwleidyddol, a’r Cymro a fu’n gweithio yn San Steffan am y cyfnod hiraf erioed newydd gyhoeddi ei hunangofiant.  Yr Arglwydd John Morris yw’r Cardi yn y Cabinet a dyma enw’r gyfrol newydd a gyhoeddwyd gan Y Lolfa yn ddiweddar.

Dyma gip olwg ar 60 mlynedd yn y byd gwleidyddol, ond cyn iddo fod yn wyneb cyfarwydd yn San Steffan, roedd ei wreiddiau’n ddwfn yng nghefn gwlad Ceredigion, wedi ei eni a’i fagu, yn un o saith o blant ar ddwy fferm yn eu tro ar gyrion Aberystwyth, ac mae’n ymfalchïo yn hynny.  Ond cafodd ei weld fel dafad ddu’r teulu gan iddo benderfynu dilyn gyrfa fel cyfreithiwr yn hytrach na ffermwr.

Ond nid oedd amaethyddiaeth yn bell iawn o’i feddwl pan gafodd ei benodi fel cyfreithiwr a dirprwy ysgrifennydd cyffredinol Undeb Amaethwyr Cymru rhwng 1956 a 1958, a oedd, wrth gwrs newydd gael ei sefydlu.  Dyma ddyfyniad o’r hunangofiant sy’n egluro mwy:-

“Pan oeddwn gartref dros y Nadolig cafodd sefydlu Undeb Amaethwyr Cymru argraff fawr arnaf, ac er syndod i’r teulu ymunais â hwynt fel cyfreithiwr a dirprwy ysgrifennydd cyffredinol.  Dilynwyd hyn gan y ddwy flynedd fwyaf cyffrous yn fy hanes – trefnu, areithio mewn cyfarfodydd dros Gymru benbaladr, a chynghori ffermwyr mewn chwe swyddfa.”

Ond er iddo adael ei swydd gyda’r undeb, mae’r diddordeb a’r cysylltiad yn parhau hyd heddiw ac mae’r hunangofiant yn cynnwys llun o John Morris yn ymweld â swyddfa’r undeb yn Nolgellau tua 2014 a braf yw gweld y llun yn ymddangos ynghanol lluniau cynnar o’r teulu a’i ddyddiau gwleidyddol yn San Steffan.

Daeth John Morris yn Aelod Seneddol dros Aberafan ym 1959, gan ddal y sedd honno tan iddo ymddeol yn 2001. Fel aelod o Dŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi bu’n gwasanaethu dan ddeg arweinydd Llafur. Bu’n dal rhai o’r swyddi uchaf yn y Llywodraeth a’r Wrthblaid, fel Twrnai Cyffredinol ac Ysgrifennydd Cymru, yn ogystal â swyddi gweinidogol eraill, a hynny mewn cyfnodau cythryblus, megis rhyfel yr hen Iwgoslafia, pan gafodd y cyfrifoldeb, fel y Twrnai Cyffredinol, o greu seiliau cyfreithiol i ddefnyddio arfau yn Kosovo.

Roedd datganoli yn bwnc llosg iddo, a bu hynny’n waith oes iddo. Fe weithiodd i gyfrannu at greu pensaernïaeth datganoli rhwng 1953 a 1998, ac mae’n nodi bod colli’r bleidlais yn 1979 yn siom enfawr iddo, ac un a gymerodd blynyddoedd mawr i ddod dros.

Yn y gyfrol hefyd ceir disgrifiadau difyr o hanes ei deulu yng nghefn gwlad Ceredigion. Mae’n sôn am y bobl sy’n agos at ei galon, a ddylanwadodd ar ei fywyd – ei fam a’i lystad (yn drist iawn bu farw ei dad yn sydyn pan oedd yn barnu gwartheg duon Cymreig a gwartheg ucheldir yr Alban yn Sioe Smithfield yn Llundain), ei fam-gu a oedd yn weithgar iawn yn ei chymuned, yn codi arian i roi addysg i ferched i ddysgu nyrsio a’i dad-cu a oedd yn hen löwr.

Roedd ganddo berthynas agos gyda’i lystad, Evan Lewis, a cafodd y saith plentyn pob gofal ganddo.  Galwad ffôn i’w lystad oedd y rheswm dros ail feddwl parhau gyda’i addysg yng Nghaergrawnt, bu bron iddo roi’r gorau ond ar ôl sgwrs ffôn byr, daliodd y trên nol i Gaergrawnt.

Fel undeb, rydym yn ffodus iawn o gefnogaeth a diddordeb parhaol yr Arglwydd John Morris ac yn falch o’r ffaith ei fod yn rhan o ddyddiau cynnar hanfodol yr undeb. Diolch i’r Cardi yn y Cabinet!

Cardi yn y Cabinet, John Morris

£7.99

Y Lolfa