gan Glyn Roberts, Llywydd FUW
Mae'n fis Hydref ac mae'n fis y mae'r Prif Weinidog wedi dweud y bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. I lawer o bobl, bydd hyn yn awgrymu ein bod bellach yn dechrau cymal olaf ein hamser yn yr Undeb. Ond ydyn ni mewn gwirionedd?
Mae ymdrech fawr gan lawer o ochrau a ffynonellau i oedi, gohirio, stopio neu derfynu Brexit yn llwyr. Ac am resymau amrywiol.
O ganlyniad, nid ydym yn gwybod (a sawl gwaith yr wyf wedi dweud hynny yn ystod y ddwy neu dair blynedd diwethaf?) Nid ydym yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd, neu hyd yn oed ddim yn mynd i ddigwydd.
Ond mae bygythiad Brexit eisoes yn cael effaith: mae prisiau cig eidion yn cwympo wrth i farchnadoedd ymateb mewn ffyrdd na welwyd ers blynyddoedd lawer. Mae cytundebau cyflenwi i Ewrop eisoes yn cael eu hadolygu, eu gohirio neu hyd yn oed eu diddymu. Ac mae ymgyrch gyfathrebu’r Llywodraeth yn ei gwneud yn glir bod angen i ni i gyd baratoi ar gyfer Brexit, hyd yn oed os nad ydym yn gwybod yn iawn beth mae hynny'n ei olygu yn ymarferol.
Mae yna lawer o senarios sy'n fy mhoeni: beth fydd yn digwydd i'r farchnad cig oen er enghraifft? Gadewch i ni edrych ar ddydd Gwener Tachwedd 1, y diwrnod ar ôl i'r Prif Weinidog ddweud y byddwn allan o'r UE. Dychmygwch yr olygfa ym marchnad Dolgellau, yn brysur fel yr arfer. Yn brysurach yn dymhorol na'r rhan fwyaf o'r flwyddyn. A fydd prynwyr yn bresennol? Beth fydd yn digwydd i'r prisiau ar y diwrnod cyntaf hwnnw allan o'r UE?
Yr ateb wrth gwrs yn syml yw nad ydym yn gwybod yn union, yn yr un modd nid ydym yn gwybod yr ateb i gynifer o gwestiynau eraill. A dyna pam yr wyf wedi bod yn gofyn i Lywodraethau'r DU a Chymru yn ystod yr wythnosau diwethaf i baratoi mecanwaith cymorth ar gyfer digwyddiadau o'r fath. Rydym angen cynlluniau wrth gefn ac wrth gwrs cronfeydd wrth gefn i ddelio â digwyddiadau disgwyliedig ac annisgwyl.
Ac mae'r ffaith bod angen cynlluniau ac arian arnom yn tynnu sylw at her arall sef effaith llywodraeth ddatganoledig. Mae'n debygol y bydd yn rhaid i'r DU ariannu unrhyw beth sy'n ymwneud ag aflonyddwch sy'n gysylltiedig â masnach, a thaliadau lles o bosibl, ond mater i Lywodraeth Cymru fydd cael cynlluniau ar waith gyda chronfeydd y DU yn talu amdanynt. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid i ddwy lywodraeth o wahanol berswâd gwleidyddol weithio'n agos ac yn gyflym gyda'i gilydd.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wrth gwrs yn gyfrifol am Iechyd a Lles Anifeiliaid, ond er y gallwn ragweld llawer o heriau os bydd marchnadoedd yn cwympo, nid oes ganddynt yr arian ar gael eto i oresgyn yr anawsterau hynny.
Bydd y dadleuon yn parhau rhwng Llywodraethau ac wrth gwrs rydym wedi bod yn brysur yn siarad â phob ochr, gan nodi pryderon ymarferol a galw am arian i fod ar gael. Nid ydym yno eto, gan ei bod yn ymddangos nad oes yr un llywodraeth eisiau ymrwymo mewn du a gwyn, ond mae'r arwyddion a'r negeseuon o bosibl yn galonogol.
A ddaw i hyn serch hynny? Onid oes ffordd arall? Wel, oes wrth gwrs, ond wnâi ddim ailadrodd yr holl ddadleuon hynny nawr. Rwy'n siŵr bod pawb yn ymwybodol o’r heriau ac effaith bosibl Brexit. Ond rwyf am gynnig un pwynt ffocws pwysig. Os byddwn yn gadael yr UE ar Hydref 31, bydd llawer yn newid, ond wrth gwrs bydd llawer yn aros yr un fath, ond yr un newid a fydd yn taro bron pob ffermwr yng Nghymru sef colli mynediad i Farchnad yr UE o dros 500 miliwn o ddefnyddwyr. Mae hynny'n ergyd y mae'n rhaid i ni ei hosgoi.
Felly yn ystod yr wythnosau nesaf byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraethau i sicrhau cytundeb sy'n osgoi Brexit caled. Ac i wneud hynny bydd angen i ni ei gwneud yn glir y bydd cytundeb, gyda chyfnod pontio synhwyrol yn well na'r risg o syrthio i wagle heb unrhyw farchnadoedd ar gael ar ddiwrnod un a thu hwnt.
Dim ond dyfalu gall pawb wneud sut bydd pethau’n gweithio allan. Gallai rhai gwleidyddion ymrwymo’n fyrbwyll i “ddim un cytundeb ar unrhyw gost”. Bydd eraill yn barod i bleidleisio dros yr hyn a ddisgrifiwyd yn ddiweddar fel “bargen Theresa May mewn wig a minlliw” gan y bydd synnwyr cyffredin yn trechu a gwleidyddion yn sylweddoli bod cytundeb yn bendant yn well na dim un cytundeb.
Ni allwn ond byw mewn gobaith. Yn ystod munudau olaf unrhyw ornest lle mae dau dîm cryf wedi brwydro cyhyd mae hi bob amser yn anodd penderfynu pwy fydd yn sicrhau buddugoliaeth. Ond mae angen torri tir newydd wrth i ni symud i’r cymal olaf peryglus hyn.