Wrth edrych allan drwy ffenest swyddfa Cornel Clecs, mae’r dail bellach wedi newid yn raddol i liwiau’r hydref ac er ein bod ym mis Tachwedd erbyn hyn, mae’r dail yn dal eu gafael yn syndod ar y coed. Heblaw am arwyddion natur bod y gaeaf wrth y drws, mae yna ddigwyddiadau arall megis y Sioe Aeaf hefyd ar y trothwy i’n atgoffa bod diwedd blwyddyn arall yn agosáu.
Mae mudiad y ffermwyr ifanc hefyd yn fwrlwm o brysurdeb amser hyn o’r flwyddyn gyda phob sir yn ei thro yn cynnal ei heisteddfod sir. Hyfryd oedd clywed y newyddion bod un o’n staff ni wedi dod i’r brig yn un o brif seremonïau Eisteddfod CFfI Sir Gaerfyrddin eleni a gynhaliwyd yn Neuadd San Pedr, Caerfyrddin ganol mis Hydref. Enillodd Ceri Davies, ein Swyddog Polisi y Gadair am ei cherdd o dan y testun ‘Llais’. Cafodd Cornel Clecs gyfle i holi Ceri am ei llwyddiant:
Sut deimlad oedd ennill?
Y teimlad mwyaf oedd balchder! Ar ôl bod mor agos i ennill ar sawl achlysur, roedden i’n hapus fy mod wedi dod i’r brig o’r diwedd. Rwyf hefyd wedi bod yn ail dwywaith, ac yn trydydd a pedwerydd yn y gystadleuaeth dros y pum mlynedd diwethaf. Mae aelodau fy nghlwb lleol, CFfI Dyffryn Cothi, wedi ennill cystadleuaeth y gadair pedair blwyddyn allan o’r pum mlwyddyn ddiwethaf, felly roedden i hefyd yn hapus fy mod i wedi parhau a’r ‘winning streak’ i’r clwb.
Am beth mae dy waith buddugol yn son?
Y testun eleni oedd ‘Llais’ neu ‘Voice’, roedd fy ngherdd Saesneg yn son am iechyd meddwl person ifanc efo meddyliau cythryblus. Mae’r llinellau olaf yn son “Only once acquainted with the drowning depths I see, the voice I heard all along was me”. Rwy’n credu fod hyn yn bwnc hynod o bwysig i ni fel diwydiant amaeth, efo’r niferoedd o ffermwyr efo problemau iechyd meddwl yn cynyddu.
Beth neu pwy sy’n dylanwadu/ysbrydoli dy waith creadigol?
Mae natur leol yn dylanwadu ar fy ngwaith creadigol yn sicr, efo nodweddion y tywydd a thirwedd Cymru yn ymddangos yn fy ngherddi pob tro.
Pa mor bwysig yw CFfI i ddyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru?
Yn fy marn i mae mudiad y Ffermwyr Ifanc yng Nghymru yn bwysig dros ben. Mae’r ffrindiau, cysylltiadau efo clybiau eraill a sgiliau rydych chi yn ei gael wrth gymryd rhan yn aruthrol. Yn bersonol, rwyf wedi elwa o sgiliau fel siarad cyhoeddus a chyfathrebu yn y Gymraeg sydd nawr yn berthnasol i mi bob dydd yn y gwaith. Byddem yn argymell i unrhyw un sydd o 10 i 26 mlwydd oed i ymuno efo clwb lleol, mae yna gymaint o fanteision i’w gael.
Diddorol yw gweld bod Ceri wedi mynd ar drywydd iechyd meddwl person ifanc yn ei cherdd fuddugol. Mae hyn yn atgyfnerthu pa mor berthnasol yw’r pwnc i’r diwydiant amaethyddol. Mae’r Undeb ar flaen y gad i godi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl mewn cymunedau gwledig ac i barhau â’r sgwrs am y materion ehangach sy’n ymwneud ag iechyd meddwl mewn ardaloedd gwledig.
Llongyfarchiadau mawr i Ceri ar ei llwyddiant ac erbyn i chi gael cyfle i ddarllen am ei llwyddiant, bydd Ceri wedi ein gadael i barhau gyda’r cam nesaf yn ei gyrfa, felly dymuniadau da iddi yn ei gyrfa a’i hysgrifennu creadigol yn y dyfodol.