Gan Angharad Evans, Golygydd y Gymraeg, Y Tir
Pwy sy’n cofio’r gyfres deledu boblogaidd a ddarlledwyd ar S4C yng nghanol y 90au, Y Palmant Aur? Mae’n rhaid i fi gyfaddef fy mod ar y pryd, ond yn cymryd diddordeb yn y gyfres gan fod hi wedi cael ei ffilmio yn fy milltir sgwâr ac felly’n gêm o ddyfalu bob nos Sul lle'r oedd y lleoliadau lleol. Felly yng nghanol diniweidrwydd yr arddegau, ni sylweddolais wir ystyr y stori na’r elfen hanesyddol oedd yn perthyn i’r gyfres.
Cyfres ddrama wedi'i lleoli yn Llundain a Cheredigion yn ystod y 1920au yn olrhain hynt a helynt y teulu Jenkins oedd Y Palmant Aur ac wedi ei seilio ar lyfr Manon Rhys o’r un enw.
O tua 1860 ymlaen, oherwydd amseroedd caled yng Nghymru, roedd llawer o Gymry, yn enwedig o Sir Aberteifi, yn mudo i sefydlu busnesau llaeth yn Llundain, gyda’r bwriad o sicrhau bywyd gwell na’r un oedd i’w gynnig gan eu mamwlad. Yn Llundain, byddent yn cadw gwartheg ar y safle yng nghanol y ddinas a pharhaodd yr arfer hwn tan 1954. Gwerthwyd llaeth a hufen dros y cownter ac ar y rownd laeth.
Un sydd â chysylltiad cryf a hanesion y Cardis yn gwerthu llaeth yn Llundain yw Alan Davies, ein Rheolwr Gyfarwyddwr, gan fod ei dad wedi gadael Cellan yng nghrombil Ceredigion i weithio yn Llundain fel dyn llaeth, ac yn y pen draw wedi datblygu busnes dosbarthu llaeth ei hunan yn y ddinas yn ogystal â siop yn Islington. Mae’r byd yn fach! Dyma i chi un enghraifft berffaith o’r Cardis yn cyflenwi llaeth yn Llundain.
Yr hyn sydd wedi sbarduno Cornel Clecs mis yma yw cyhoeddiad y llyfr ‘Y Lôn Laeth i’r Ddinas, Hanes Llaethdai Cymry Llundain yn ystod Gŵyl Merlod a Chobiau Cymreig Aberaeron ar ddechrau mis Awst. Llyfr dwyieithog, yn llawn hanesion a lluniau sy’n cofnodi hanes y cyfraniad pwysig y mae'r Cymry o ardaloedd gwledig, fel Ceredigion, wedi'i wneud i Lundain a'i phoblogaeth gynyddol. Ganwyd yr awdur Megan Hayes i rieni a’i gwreiddiau yn Sir Aberteifi, Dan ac Eliza Jane Lloyd, a fu'n rhan o fasnach llaeth Llundain.
Ym mis Mehefin bu Cornel Clecs yn edrych ar bwysigrwydd y porthmyn i ddatblygiad cynnar masnachu amaethyddol, ac mae ‘Y Lôn Laeth i’r Ddinas’ yn dechrau gyda dylanwad y porthmyn a deithiodd gyda'u gwartheg o Gymru wledig i ddinas Llundain ac mae yna gyfle i ddysgu mwy am waith Dafydd Isaac a Jenkin Williams i enwi ond dau. Mewn cyferbyniad gyda theithio heddiw ac ystyried faint o filltiroedd mae’n hanifeiliaid ni’n teithio o farchnad i farchnad, meddyliwch am hyn: Yn nyddiau’r porthmyn, byddai gwartheg yn cael eu cerdded ar gyflymdra o tua dwy filltir yr awr ac yn teithio rhwng 15 a 20 milltir y dydd! Anhygoel!
Yna mae'r llyfr yn symud ymlaen i ddisgrifio sefydlu'r nifer o laethdai a siopau cornel a oedd, ar agor bob awr o bob dydd, yn darparu llaeth ffres i'r metropolis oedd yn prysur gynyddu.
Mae’r llyfr yn olrhain hanes sawl teulu, a’r rhai hynny’n deuluoedd mawr megis teulu Esgair-garn, Llanddewi Brefi, gyda naw o’r 12 plentyn yn mynd i weithio i’r fasnach laeth yn Llundain.
Bwriad y llyfr yw cipio hanes y bywydau - yr anawsterau a'r disgwyliadau - o'r rhai a wnaeth y trawsnewid a chysylltu profiadau'r rhai a adawodd i geisio bywyd gwell mewn 'gwlad bell'.
Trysor o lyfr gan fod hanes y Cardis yn Llundain bellach ar gof a chadw gan sicrhau bydd y genhedlaeth nesaf yn gallu parhau i ddysgu a thrafod y cysylltiad llaethog rhwng y Cymry a Llundain.