Mae ffermwr o’r Bala, Geraint Davies, a ymddiswyddodd fel Cadeirydd Cymru o Nature Friendly Farming Network yr wythnos diwethaf, wedi cyfeirio at wahaniaethau barn ar gydnabod effeithiau posib polisïau ar deuluoedd a chynhyrchu bwyd fel y prif resymau a arweiniodd ato’n teimlo na allai bellach arwain y sefydliad yng Nghymru.
Cafodd Nature Friendly Farming Network (NFFN), ei lansio ym mis Ionawr eleni yng Nghynhadledd Amaeth Rhydychen, a oedd yn cynnwys ffermwyr o bob cwr o'r DU, ac yn cael ei ariannu a'i gefnogi gan amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys y RSPB, Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyfeillion y Ddaear a'r Gymdeithas Pridd Organig.
Wrth siarad am ei benderfyniad, dywedodd Mr Davies: "Nid ar chwarae bach y gwnes i’r penderfyniad hwn, ond yn dilyn nifer o drafodaethau gyda'r elusennau a'r rhanddeiliaid sy'n cefnogi a chyllido NFFN, daeth yn amlwg i mi nad oedd fy marn bendant dros amddiffyn teuluoedd amaethyddol Cymru, cynhyrchu bwyd, cymunedau gwledig a’n hamgylchedd naturiol o reidrwydd yn cael ei rannu gan rai o'r sefydliadau hyn.
"Roeddwn i'n teimlo hefyd nad oedd rhai o'r pryderon mawr ynghylch effeithiau'r hyn a gynigiwyd yng Nghymru a Lloegr, o ran symud at system amhrofedig, ac o bosib anghyfreithlon o ddarparu cefnogaeth trwy gynllun nwyddau cyhoeddus, yn cael eu cymryd o ddifrif."
Dywedodd Mr Davies, a gafodd ei wneud yn Gadeirydd NFFN ym mis Mehefin, ei fod wedi ymuno â'r sefydliad i geisio pontio'r bwlch rhwng amaethyddiaeth a chyrff amgylcheddol.
"Rwy’n angerddol dros natur a bywyd gwyllt, ffermio a chynhyrchu bwyd, ac mae'r ddau yn mynd llaw yn llaw ar ein fferm yma uwchlaw'r Bala. Rwy'n falch o ddweud ein bod ni eleni wedi creu tri safle nythu newydd ar ein mynydd ar gyfer chwilgorn y mynydd - nid er gwaethaf ffermio, ond oherwydd ffermio a phresenoldeb da byw yn pori, hebddynt hwy ni fyddai'r rhywogaethau hynny yno."
Dywedodd Mr Davies bod ganddo bryderon mawr, er y gallai'r hyn a gynigiwyd yng Nghymru a Lloegr weithio ar gyfer ei fferm ef, y gallai'r effaith fod yn ofnadwy ar gyfer ffermydd a theuluoedd arall, gydag effeithiau difrifol ar gymunedau a'r economi ehangach.
"Dydw i ddim yn meddwl bod rhai o'r pryderon hyn am bobl, teuluoedd a chymunedau'n cael eu cymryd o ddifrif gan rai, hyd yn oed os ydynt yn esgus cefnogi’r pwnc.
"Ar ddiwedd y dydd, os na fydd y newidiadau arfaethedig yn cael eu hymchwilio'n drylwyr i sicrhau eu bod yn ddiogel, neu'n cael eu cyflwyno'n rhy gyflym, nid yn unig y bydd yn effeithio ar deuluoedd a chymunedau, ond hefyd ar y cynefin a'r rhywogaethau sy'n dibynnu ar ffermio.
"Fel cadeirydd pwyllgor ffermwyr ifanc UAC a changen Meirionnydd yr undeb, rwyf am sicrhau bod gennym bolisi sy'n ddiogel i bob teulu sy’n ffermio, yn enwedig y genhedlaeth nesaf, nid dim ond yr ychydig rai.
"Dwi ddim yn meddwl bod rhai yn cymryd y materion a'r pryderon hynny o ddifrif. Ymddengys eu bod nhw eisiau sefydlu polisïau heb ddeall y ffeithiau’n iawn ac o dan yr argraff y bydd popeth yn iawn yn hytrach na ystyried pethau o ddifrif”, ychwanegodd Mr Davies.