Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi cychwyn ei digwyddiad Academi UAC Gogledd Cymru gyntaf mewn steil dwy gynnal dau ymweliad fferm lwyddiannus ac addysgiadol i'w haelodau.
Mae Academi UAC yn fenter i ddarparu digwyddiadau ymgysylltu, addysgiadol ac ymarferol ledled Cymru ac mae rhaglen o ddigwyddiadau o'r fath yn cael ei datblygu ar gyfer pob aelod.
Trefnwyd y digwyddiadau ar y cyd gan ganghennau Sir Gaernarfon, Meirionnydd ac Ynys Môn o’r Undeb, a daeth tyrfa dda o aelodau ifanc gogledd Orllewin Cymru ynghyd.
Fel rhan o'r diwrnod bu’r aelodau’n yn ymweld â Harri Parri, Fferm Crugeran, Sarn ar Benrhyn Llŷn, ac Arwyn Owen, yn Hafod y Llan, Nant Gwynant, gan roi manylion manwl am bob un o'r ffermydd.
Yn arwain yr ymweliadau oedd Geraint Davies, cadeirydd Pwyllgor Llais yr Ifanc dros Ffermio UAC a dywedodd: "Roedd y ddwy fferm yn wahanol iawn i'w gilydd. Mae'r Crugeran yn fusnes biff a defaid iseldir dwys, tra bod Hafod y Llan yn uned fynydd wedi'i ffermio'n helaeth hyd at gopa'r Wyddfa.
"Roedd yn gyfle gwych i ysgogi dysgu a rhannu, ac i'n haelodau ifanc ddatblygu diddordeb yng ngweithgareddau'r Undeb. Mae hyn yn rhan o broses o ddenu aelodau iau i waith yr Undeb, sydd mor bwysig i'r dyfodol."
Erbyn hyn, mae cynlluniau ar y gweill i drefnu digwyddiadau pellach o fewn y misoedd nesaf, ac os oes gan unrhyw un diddordeb, mae croeso iddynt gysylltu â Changhennau Sirol Gogledd Orllewin Cymru.