Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, fod Bwrdd Rhaglen Dileu’r Diciâu mewn Gwartheg bellach wedi ei sefydlu.
Mae’r newyddion yn cwblhau’r strwythur llywodraethiant newydd yn dilyn ffurfio’r Grŵp Cynghori Technegol ar TB mewn Gwartheg yn gynharach eleni.
Yn ôl Dirprwy Lywydd yr Undeb a’r ffermwr llaeth, Dai Miles: “Rydym yn croesawu’r newyddion bod Bwrdd Rhaglen Dileu’r Diciâu mewn Gwartheg wedi ei sefydlu a bod llythyrau penodi wedi’u hanfon. Mae’r newyddion i’w groesawu yn arbennig gan fod y Llywodraeth eisoes wedi ffurfio’r Grŵp Cynghori Technegol yn gynharach eleni.
“Gyda chynrychiolaeth gref gan ffermwyr a chyrff y diwydiant, gan gynnwys Undeb Amaethwyr Cymru, bydd y Bwrdd yn gweithio’n agos gyda’r Grŵp Cynghori Technegol ac yn rhoi cyngor strategol i Huw Irranca-Davies ar geisio dileu’r diciâu mewn gwartheg yng Nghymru.”
Mae’r datganiad (12 Awst) yn nodi y bydd blaenoriaethau cynnar y Bwrdd yn cynnwys cytuno ar ei gylch gorchwyl, cadarnhau’r ‘ffyrdd o weithio’ ac ystyried cyngor y Grŵp Cynghori Technegol mewn perthynas â’r adolygiad chwe blynedd ar y targedau i ddileu’r diciâu yng Nghymru. Yn ogystal, bydd y Bwrdd hefyd yn archwilio sut i wella cyfathrebu ac ymgysylltu â ffermwyr a milfeddygon.
Dywedodd Dai Miles: “Er ein bod yn croesawu’r cyhoeddiad gan Huw Irranca-Davies heddiw, fel ceidwaid anifeiliaid fferm, rydym yn parhau i gael ein llethu gan y clefyd diflas yma.
“Yn 2022, dadansoddodd yr FUW bod cyfanswm y costau o brofi gwartheg am y diciâu cyn eu symud yng Nghymru dros £2.3 miliwn. Cafodd 11,197 o anifeiliaid eu difa yn y 12 mis hyd fis Mawrth 2024.
“Wrth i ni barhau i weld diffyg eglurder ac arweiniad i ymdrin â’r clefyd hwn mewn bywyd gwyllt hefyd, mae tystiolaeth o’r 52 ardal difa moch daear cyntaf yn Lloegr yn dangos bod yr achosion o’r diciâu mewn gwartheg wedi gostwng 56% ar gyfartaledd a hynny wedi pedair blynedd o’r cynllun difa. Mae ffermwyr, fel llysgenhadon cefn gwlad, hefyd am weld poblogaeth o fywyd gwyllt iach a llewyrchus yma yng Nghymru.
“Mae’r effaith emosiynol a seicolegol ar y teuluoedd amaethyddol sy’n cael eu taro gan y clefyd hwn yn eu gwartheg yn ddirdynnol. Mae nifer o’n haelodau wedi siarad yn gyhoeddus am eu trallod dros y misoedd diwethaf er mwyn codi ymwybyddiaeth o sgìl effaith y clefyd ar eu teuluoedd, eu busnesau a’u da byw."
Yn ôl y Dirprwy Lywydd: “Fel Undeb, rydym yn awyddus i gyfrannu a gweithio’n agos gyda Bwrdd y Rhaglen Dileu a’r Grŵp Cynghori Technegol i adolygu’r materion pwysig sy’n berthnasol i ddileu’r diciâu mewn gwartheg. Mae’r rhain yn cynnwys meysydd megis priodoldeb y trefniadau profi presennol a’r dulliau y gellid mynd i’r afael â nhw er mwyn ceisio osgoi lledaenu’r clefyd mewn bywyd gwyllt.”