Ar ôl i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn swyddogol, mi roedd yna, ar y dechrau, awydd gwleidyddol yn San Steffan i arwyddo cytundebau masnach rydd brysiog a datgelu ‘buddiannau’ ein trefniadau masnachu ar ôl Brexit.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi lleisio pryderon clir am y cytundebau masnach rydd gydag Awstralia a Seland Newydd, yn enwedig am nad yw cytundeb Awstralia o fawr o werth i economi’r DU yn ei gyfanrwydd.
Mi fydd, yn anorfod, yn arwain at ostyngiad net yn y safonau iechyd anifeiliaid a safonau amgylcheddol yn fyd-eang, yn sgil dadleoli bwyd sy’n cael ei gynhyrchu gan gynhyrchwyr yn y DU, sydd wedi’u rhwymo’n gyfreithiol i safonau llawer uwch na’r rhai sy’n ofynnol gan ffermwyr Awstralia.
Roedd ffigurau a rhagamcanion Llywodraeth y DU ei hun yn amcangyfrif y bydd y cytundeb yn cynyddu cynnyrch domestig gros (GDP) y DU rhwng 0.06% a 0.1% (cyfartaledd o 0.08%, neu wyth rhan mewn deg mil) dros yr hirdymor (erbyn 2035), gan arwain at gynnydd hirdymor yng nghyflogau’r DU o 0.1% - cyfartaledd o 60c yr wythnos yn seiliedig ar ffigurau 2019.
Dwy flynedd yn ôl, cadarnhaodd datganiadau a wnaed yn San Steffan gan y cyn Ysgrifennydd Gwladol dros Amaethyddiaeth, George Eustice, fod y cytundebau masnach gydag Awstralia a Seland Newydd yn caniatáu mynediad eang i farchnad fwyd y DU, yn gyfnewid am fawr ddim buddiannau i weddill yr economi - gan gadarnhau popeth mae UAC wedi’i ddatgan o’r dechrau.
Er bod Ceidwadwyr y DU wedi ymrwymo i sicrhau ‘bod yr holl gynhyrchion bwyd a diod a fewnforir i’r DU, gan gynnwys rhai o wledydd y mae gennym gytundebau masnach â nhw, yn gorfod cydymffurfio â safonau uchel y DU’, maent wedi methu â gwahaniaethu rhwng beth a olygir gan safonau mewnforio’r DU a safonau cynhyrchu’r DU, gan olygu bod eu hymrwymiadau’n gwbl agored i gael eu dehongli fel y mynnir
Mae’n gwbl hanfodol felly bod gweinyddiaeth nesaf y DU yn sicrhau bod unrhyw gytundebau a wneir yn y dyfodol gyda gwledydd a blociau masnach eraill yn mabwysiadu agwedd llawer mwy cadarn, sy’n gwarchod ein ffermwyr ac yn diogelu’n cyflenwad bwyd. Rhaid i hyn gynnwys mabwysiadu proses fwy tryloyw, fel sy’n digwydd mewn gwledydd a blociau masnach eraill, sy’n caniatáu mwy o graffu a thrafodaeth gyda sectorau (yn enwedig sectorau agored i niwed) a gweinyddiaethau datganoledig ynghylch amserlenni realistig ac effeithiau negyddol posib.
Fodd bynnag, tra bod trafodaethau ar gyfer cytundebau gyda bloc masnach CPTPP, India, Canada ac eraill yn parhau, ni ddylai’r DU danbrisio pwysigrwydd gwarchod a blaenoriaethu’n perthynas â’r UE, er mwyn diogelu cyflenwad bwyd y DU a’n marchnadoedd allforio mwyaf ar gyfer cynhyrchion bwyd amaethyddol. Mae’r oedi mynych o ran gwiriadau ar y ffin ar fewnforion bwyd o’r UE, o’i gymharu â’r rheolaeth lawn ar allforion o’r DU, wedi arwain at amgylchedd masnachu annheg ac anghyfartal ers diwrnod cyntaf Brexit.
Er y byddai’n anodd, efallai, i weinyddiaeth nesaf y DU i ail-drafod unrhyw drefniadau ôl-Brexit gyda’r UE, mae UAC yn galw ar Lywodraeth nesaf y DU i sicrhau bod mewnforion ac allforion bwyd yn wynebu’r un rheolau o ran tollau a safonau, a fydd nid yn unig yn sicrhau tegwch rhwng y DU a’r UE, ond a fydd hefyd yn adfer hyder ein partneriaid masnachu.