Wrth inni nesáu at yr Etholiad Cyffredinol, mae UAC, ar y cyd ag NFU Cymru a CFfI Cymru, wedi trefnu 15 o hystingau ledled Cymru i ddarparu’n haelodau â chyfle i holi eu hymgeiswyr lleol ar ffermio a materion gwledig yng Nghymru.
Mae ffermio yng Nghymru wedi cyrraedd croesffordd bwysig a fydd yn pennu ei ddyfodol am ddegawdau i ddod.
Er bod ei gyfeiriad yn dibynnu’n drwm ar ddatblygu polisïau amaethyddol datganoledig, rhaid inni beidio ag anghofio sut y bydd penderfyniadau a wneir gan weinyddiaeth newydd y DU yn effeithio yn y bôn ar lefel y cyllid sydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi amaethyddiaeth a datblygu gwledig. Bydd y llywodraeth nesaf hefyd yn pennu i ba raddau y bydd disgwyl i gynhyrchwyr yng Nghymru gystadlu yn erbyn cynhyrchwyr gwledydd eraill y DU a ledled y byd ar wahanol lefelau.
Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd (UE) a’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) nid yn unig wedi caniatáu i bob un o weinyddiaethau’r DU i ddylunio eu polisïau amaethyddol eu hunain am y tro cyntaf mewn degawdau, mae hefyd wedi nodi pwynt mewn hanes a’n gwelodd ni’n symud i ffwrdd o’r sicrwydd a ddarparwyd gan ddyraniadau cyllidebol amlflwydd, a thuag at system gyllidebol lle mae ffermwyr Cymru bron yn gyfan gwbl ddibynnol ar ymrwymiadau cyllidol blynyddol a wneir gan Drysorlys y DU.
Serch bod Maniffesto 2019 Ceidwadwyr y DU yn datgan “… byddwn yn gwarantu’r gyllideb PAC flynyddol bresennol i ffermwyr ym mhob blwyddyn o’r Senedd nesaf”, mae Cymru wedi derbyn tua chwarter biliwn o bunnau yn llai o gyllid ar gyfer amaethyddiaeth a datblygu gwledig nag y byddid wedi’i ddisgwyl pe bai’r DU wedi aros yn yr UE. Mae hyn yn cyfateb i golled o tua £3,000 fesul hawliwr Cynllun y Taliad Sylfaenol yng Nghymru, a hynny bob blwyddyn ers 2019.
Serch bod yr addewidion hyn wedi’u torri droeon, drwy fater o ddehongli neu gyfrifo clyfar, pwy a ŵyr p’un ai y byddai’r toriadau hyn wedi bod yn fwy o lawer pe na baem wedi dwyn llywodraeth Geidwadol y DU i gyfrif am eu hymrwymiadau.
Rhaid inni gofio hefyd bod hyn yn cymharu â chyllideb a gafodd ei dyrannu a’i chytuno yn 2013, a ddaeth â chyfartaledd o £331 miliwn y flwyddyn i Gymru ar ffurf cymorth PAC - mae’r cymorth hwn wedi caniatáu i fusnes ffermio cyffredin yng Nghymru i gyfrannu o leiaf £100,000 y flwyddyn i’r economi ehangach, gan gefnogi amrywiaeth o fusnesau eilaidd a thrydyddol.
Yn ôl cyfrifydd chwyddiant Banc Lloegr, sy’n defnyddio data chwyddiant Mynegai Prisiau Defnyddwyr y Swyddfa Ystadegau Gwladol, dylai’r gyllideb flynyddol i ddisodli PAC yr UE yng Nghymru gyfateb i tua £450 miliwn bellach – a hynny i aros yn ein hunfan yn unig.
Roedd Maniffesto 2024 Ceidwadwyr y DU yn addo “cynyddu’r gyllideb ffermio ledled y DU o £1 biliwn yn ystod y cyfnod Seneddol, gan sicrhau ei bod yn codi’n unol â chwyddiant bob blwyddyn.” Yn seiliedig ar ddyraniadau presennol Cymru, byddai hyn yn cyfateb i gynnydd o tua £20 miliwn y flwyddyn yn y cyllid ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru. Fodd bynnag, gellid dadlau bod absenoldeb unrhyw ymrwymiadau ariannol o ran amaethyddiaeth o fewn Maniffesto Llafur y DU yn fwy o bryder o lawer.
Gyda ffermwyr yn gorfod cyflawni mwy nag erioed o’r blaen yng nghyd-destun lliniaru effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ac adfer bioamrywiaeth, ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd cynaliadwy a gwneud cyfraniadau dirifedi i gefn gwlad a’r gymdeithas yng Nghymru, mae ymrwymiadau ariannu amlflwydd ar gyfer amaethyddiaeth a datblygu gwledig yn hanfodol, i sicrhau bod ffermwyr Cymru’n gallu gwneud buddsoddiadau cynaliadwy dros yr hirdymor.