Undeb Amaethwyr Cymru yn cyhoeddi Pennaeth Polisi newydd

Mae Undeb Amaethwyr Cymru’n falch iawn o gyhoeddi bod Gareth Parry wedi ei benodi yn Bennaeth Polisi, a hynny ychydig ddyddiau’n unig cyn ei briodas.

Roedd dathliad dwbl i Gareth, brodor o Lanfarian ger Aberystwyth, wrth iddo ef a Catrin, Rheolwr Swyddfa pencadlys Undeb Amaethwyr Cymru, briodi yn ddiweddar. Maent eisoes wedi ymgartrefu ar fferm odro, bîff a defaid y teulu yn Llanafan, Ceredigion.

Mae Gareth, a raddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf mewn amaeth ac astudiaethau busnes o Brifysgol Aberystwyth, yn gweithio i’r Undeb fel Swyddog Polisi ers pum mlynedd. Yn ddiweddar, mi arweiniodd ymateb 20,000 o eiriau yr Undeb i Gynllun Ffermio Cynaliadwy diweddaraf Llywodraeth Cymru. Gareth yw wyneb cyhoeddus yr Undeb, yn cefnogi’r Llywydd mewn cyfarfodydd yn San Steffan ac yn y Senedd, gan gynnwys cyfarfod yn gyson ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig a’i dîm.  Mae hefyd yn cyfarfod ac yn cynnig arweiniad i aelodau ledled Cymru ac fe’i gwelir yn rheolaidd yn cael ei gyfweld gan y cyfryngau. 

Mae Gareth eisoes wedi dechrau yn ei rôl ac mae’n ymfalchïo yng ngwaith yr Undeb: “Dwi’n hynod falch o’r cyfle yma ac yn ddiolchgar i bawb am eu cefnogaeth dros y misoedd prysur diwethaf. Mae gennym dîm o staff gweithgar ac arbenigol yn Undeb Amaethwyr Cymru, ac mae’n fraint cael cydweithio ȃ nhw wrth gynrychioli buddiannau ein haelodau. 

“Dwi’n edrych ymlaen at y sioeau amaethyddol dros yr haf, y cyfle i sgwrsio ȃ ffermwyr Cymru, i drafod materion y dydd gyda sefydliadau eraill ac i baratoi at y cyfnod cyffrous nesaf i’r diwydiant. Nid ar chwarae bach y mae gosod polisi amaethyddol newydd i Gymru sy’n gonglfaen i gefn gwlad, i’r economi, i ddiwylliant a threftadaeth. Dwi’n edrych ymlaen at chwarae rhan yn y cyfnod hanesyddol pwysig hwn i gymunedau gwledig Cymru.”

Pan fo gwaith yr Undeb yn caniatáu mae gan Gareth ddiddordeb mawr mewn ralïau ceir ac mae wedi cystadlu droeon gyda’i gyd-yrrwr. Ar ôl llywio traciau diarffordd gyda’i bartner gyrru, Scott Faulkner, daethant adref gyda chwpan y ‘British Trials and Rally Drivers Association’ nôl yn 2019. Mae’r pennaeth polisi newydd wedi teithio’r byd yn ralïo ac mae hefyd yn mwynhau adnewyddu ceir a cherbydau.

Mae UAC yn hynod falch bod Gareth wedi ei benodi yn Bennaeth Polisi yr Undeb. Mae’n llysgennad galluog, proffesiynol a brwdfrydig dros y byd amaeth. Mae UAC yn ffodus iawn o fod wedi elwa o’i arbenigedd a’i feddwl craff dros y misoedd diwethaf. Mae UAC yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio ȃ Gareth, wrth i’r Undeb gamu ‘mlaen i ran nesaf y daith bwysig hon i fyd amaeth.

Hoffai UAC fanteisio ar y cyfle i dalu teyrnged i Nick Fenwick, cyn Bennaeth Polisi UAC am ei waith dros UAC ac amaethyddiaeth yng Nghymru. Mae cyfraniad Nick dros gyfnod maith i’r Undeb a’r diwydiant yn ystod ei gyfnod yn y swydd yn cael ei werthfawrogi’n fawr. Mae staff ac aelodau wedi cael y fraint o gydweithio ag arbenigwr amaethyddol proffesiynol dros ben, a ddangosodd  ymrwymiad mawr i weithio ar ran ffermwyr Cymru. Mae UAC am ddymuno’n dda iddo ef a’i deulu i’r dyfodol.