Cyhoeddiad Hufenfa Mona’n pwysleisio’r angen am gymorth, medd UAC

Mae Hufenfa Mona wedi cyhoeddi dyfodol ansicr i’w cyflenwyr llaeth, ar ôl methu â sicrhau cyllid gan randdeiliaid, ac maent wedi dweud wrth eu cyflenwyr y bydd cwmni prosesu llaeth arall yn prosesu llaeth dros dro.

Mae’r cyfleuster yn cael ei bweru gan ynni adnewyddadwy ac mae ganddo’r potensial i gynhyrchu 30,000 tunnell o gaws cyfandirol y flwyddyn.  Mae ymrwymiad Hufenfa Mona i ostwng ôl troed carbon y broses o gynhyrchu caws yn golygu mai nhw oedd y cyntaf yn y DU i ddefnyddio lorïau trydan i gasglu llaeth.

Yn ddiamau, mi fydd hon yn golled ddifrifol i’r economi leol yn ogystal â’r 31 o gynhyrchwyr sy’n cyflenwi llaeth i Hufenfa Mona ar hyn o bryd.

Mae ffermwyr llaeth ledled Cymru’n wynebu cyfnod digynsail o ansicrwydd, ar ôl delio ag anawsterau gaeaf hir a gwlyb, ochr yn ochr â helbul parhaus y newidiadau i gymorth amaethyddol yn y dyfodol, a mân reolau.

Mae cydymffurfio â’r rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol a’r broblem gynyddol o TB Gwartheg yn parhau i olygu anawsterau mawr a chostau afresymol i’r sector.

Mae UAC yn gobeithio, o ganlyniad i’r twf gwannach yn y gwanwyn, a’r cynnydd yn y farchnad nwyddau llaeth, y bydd proseswyr llaeth eraill mewn sefyllfa ffafriol i allu cefnogi’r cynhyrchwyr llaeth sy’n cyflenwi Hufenfa Mona ar hyn o bryd.

Fodd bynnag, i gael ateb mwy parhaol, y gobaith yw y gellir dod o hyd i brynwr newydd all fanteisio ar y cyfleusterau arloesol sydd ar gael ar y safle ar Ynys Môn.  O ystyried  rhinweddau cynaliadwyedd a chyfleoedd economaidd Hufenfa Mona, mae UAC yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynorthwyo i sicrhau canlyniad positif i’r busnes. 

Mae croeso i aelodau UAC sydd wedi’u heffeithio gan y newyddion hyn i gysylltu â’u swyddfeydd sirol am arweiniad a chymorth yn ystod y cyfnod anodd hwn.