Tir ffermio organig yn cynyddu yn yr UE
Roedd y tir a ddefnyddir i greu cynnyrch amaethyddol organig yn cyfrif am 10.5% o holl dir ffermio’r UE yn 2022, sef cynnydd o 79% mewn tir ffermio organig rhwng 2012 a 2022.
Ffrainc sydd ar y blaen, gyda’r nifer uchaf o hectarau organig o blith gwledydd yr UE, sef 2.9 miliwn yn 2022, a oedd yn cyfrif am 17% o gyfanswm y bloc, ac yna Sbaen (2.7 miliwn hectar), Yr Eidal (2.3 miliwn) a’r Almaen (1.6 miliwn). Roedd llai na 5% o dir Iwerddon, Bwlgaria a Malta yn cael ei ffermio’n organig yn 2022.
Mae’r UE wedi gosod targed o 25% o amaethyddiaeth organig erbyn 2030. Mae’r cyfraddau twf presennol yn awgrymu y bydd yr UE yn cyrraedd cyfran o 15% yn unig o ffermio organig erbyn 2030.
Cyfraith newydd yn gwahardd allforio anifeiliaid byw i’w pesgi neu’u lladd
Daeth gwaharddiad newydd ar allforio anifeiliaid byw i rym ar Ddydd Llun 20 Mai wrth i’r Ddeddf Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw) dderbyn Cydsyniad Brenhinol.
O 22 Gorffennaf 2024, mae’n drosedd allforio da byw a cheffylau i’w lladd a’u pesgi o Brydain Fawr. Mae Deddf Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw) 2024 yn gwahardd allforio gwartheg, defaid, moch, geifr a cheffylau i’w pesgi a’u lladd o Brydain Fawr.
Mae’n berthnasol ar gyfer siwrneiau i, a siwrneiau drwy Brydain Fawr i gyrchfannau y tu allan i’r DU, Ynysoedd y Sianel, ac Ynys Manaw. Mae’r ddeddfwriaeth yn atal anifeiliaid rhag dioddef straen, gorludded ac anafiadau ar siwrneiau allforio hir a diangen ac mae hefyd yn sicrhau bod anifeiliaid yn cael eu lladd yn eu gwlad gartref, mewn lladd-dai o fewn y DU sydd â safonau lles uchel.
Caniateir allforio anifeiliaid byw at ddibenion eraill o hyd, er enghraifft, bridio a chystadlaethau, cyn belled â bod yr anifeiliaid yn cael eu cludo yn unol â gofynion cyfreithiol sy’n gwarched eu lles. Nid yw’r gwaharddiad yn berthnasol ar gyfer allforio anifeiliaid byw eraill, megis dofednod, ac nid yw’n berthnasol yng Ngogledd Iwerddon. Nid yw’r ddeddfwriaeth yn effeithio ar symudiadau da byw a cheffylau o fewn y DU.
Disgwyl mwy o sefydlogrwydd o fewn y farchnad cig eidion yn 2025
Mae Hybu Cig Cymru wedi cynnal dadansoddiad o ddata sy’n dangos y tueddiadau o ran cyflenwi a manwerthu o fewn y farchnad cig eidion. Mae’r dadansoddiad yn awgrymu y gall fod mwy o sefydlogrwydd yn 2025 yn dilyn y gostyngiadau bach o wythnos i wythnos a welwyd yn ddiweddar.
Mae’r tueddiadau o ran y fuches fagu dros y ddegawd ddiwethaf yn dangos dirywiad amlwg. Roedd mwy o ostyngiad yn niferoedd y lloi a anwyd ym Mhrydain y llynedd nag yn y blynyddoedd blaenorol. Parhaodd y duedd hon yn ystod chwarter cyntaf 2024, sy’n awgrymu y bydd y cyflenwad yn nes ymlaen yn parhau i fod yn gyfyng.
Mae’r data ar gyfer Prydain yn awgrymu y gallai’r cyflenwad o wartheg cig eidion dethol a gwartheg llaeth gwryw 0 -12 mis oed fod dri y cant yn llai na’r llynedd, sef 1.9 miliwn o wartheg. Mae’r ffactorau hyn yn awgrymu y bydd mwy o sefydlogrwydd yn y farchnad wrth iddyn nhw dreiddio drwodd tua diwedd 2024.