Canllawiau Llywodraeth Cymru ar ofynion profion TB Gwartheg cyn ac ar ôl symud

Mae’r canllawiau diweddaraf wedi’u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru ynghylch y newidiadau i’r gofynion o ran profion TB Gwartheg cyn ac ar ôl symud a gyflwynwyd ar 1 Chwefror 2024.

Mae angen i bob anifail sy'n symud o ddaliad heb gyfyngiadau yng Nghymru fod wedi cael canlyniad clir i brawf cyn symud (PrMT) o fewn y 60 diwrnod cyn symud. Mae hyn oni bai bod yr anifail o dan 42 diwrnod oed, neu os yw'r symud yn esempt.

Mae canlyniadau PrMT clir yn ddilys am 60 diwrnod (neu 30 diwrnod ar gyfer symud i'r Alban), o ddyddiad y pigiad ar gyfer y prawf croen, sef diwrnod sero y cyfnod 60 diwrnod. Y diwrnod ar ôl y pigiad yw diwrnod un ac yn y blaen. Rhaid i wartheg sy'n gadael y fferm gael PrMT dilys ar y diwrnod y bydd y gwartheg yn symud i ffwrdd. Os yw'r symudiad drwy farchnad, rhaid i'r gwartheg gael PrMT dilys ar y diwrnod y bydd y gwartheg yn gadael y farchnad.

Nid oes angen PrMT ar loi o dan 42 diwrnod oed (h.y. 41 diwrnod neu lai).

Mae trwyddedau cyffredinol diwygiedig hefyd ar gael lle caniateir eithriadau i’r gofynion.

Am fwy o wybodaeth:

https://www.llyw.cymru/tb-gwartheg-profion-cyn-symud-phrofion-ar-ol-symud

https://www.llyw.cymru/tb-gwartheg-crynodeb-profi-cyn-ac-ar-ol-symud

https://www.llyw.cymru/tb-gwartheg-symud-gwartheg-trwyddedau