gan Glyn Roberts, Llywydd FUW
Mae wythnos y 100fed Sioe Frenhinol wedi bod ac wedi mynd. Roedd yn brysur, yn gynnes ac roeddem yn falch o fod yn rhan o sioe amaethyddol fwyaf Ewrop, sy'n arddangos ein diwydiant cystal ag yn dod ag amaethyddiaeth i sylw pawb - mae'r FUW wedi bod yn bresennol yn y sioe ers dros drigain mlynedd!
I ni yn yr FUW mae bob amser yn braf gallu cwrdd ag aelodau yn y pafiliwn a gwnaethom fwynhau'r sgyrsiau eang ac amrywiol dros baned. Ond nid yfed te yn unig ydoedd - rydym hefyd wedi bod yn brysur yn ein nifer o gyfarfodydd yn tynnu sylw at pam mae ein diwydiant mor bwysig â pham mae angen datrys cyllid ar gyfer amaethyddiaeth ar frys.
Yn ystod pedwar diwrnod y sioe gwnaethom gwrdd â llawer o Weinidogion o Lywodraethau a gwleidyddion o bob plaid yn ogystal â chyrff diwydiant, gan lobïo'n galed bob amser ar ran ein haelodau. Ac roedd rhywfaint o newyddion da iawn - mae ein negeseuon a thynnu sylw di-baid pam mae ffermio yn bwysig a pham mae cyllid fferm teg yn hanfodol er mwyn sicrhau fferm deuluol gynaliadwy, ffyniannus yng Nghymru wedi cyrraedd carreg filltir sylweddol.
Atgyfnerthwyd yr ymrwymiad i gyllid ar gyfer ffermio yng Nghymru gan y Prif Weinidog Mark Drakeford, a Gweinidog Ffermio Cymru, Lesley Griffiths, wrth gwrdd â hi yn ystod y sioe. Rydym ni, gyda’r sefyllfa ar hyn o bryd, wedi eu hargyhoeddi o'r egwyddor ac er bod yna lawer o bethau sydd angen cadarnhad – mae’n gam i’r cyfeiriad cywir.
Mae ein negeseuon i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau wedi bod yn glir ac yn gryf. Bydd Brexit heb gytundeb yn drychinebus i'r diwydiant ffermio yng Nghymru. Fe wnaethon ni bwysleisio’r pwynt hwnnw eto pan wnaethon ni gwrdd â chyn Ysgrifennydd Gwladol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Michael Gove ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns. Ni fyddai unrhyw Lywodraeth gyfrifol y DU yn caniatáu i'r DU adael yr UE heb gytundeb.
Nawr mae gennym Brif Weinidog newydd sy’n gwthio paratoadau ar gyfer Brexit heb gytundeb a Gweinidog DEFRA newydd hefyd. Mae llawer o waith caled o’n blaenau. Ac rydym yn barod i weithio gyda nhw i sicrhau y bydd llais teuluoedd ffermio Cymru yn cael ei glywed yn uchel ac yn glir.
Rwyf eisoes wedi ysgrifennu at Boris Johnson a Theresa Villiers, yn eu llongyfarch ar eu penodiadau ond yn eu rhybuddio am y peryglon yr ydym ni fel diwydiant yn eu hwynebu os ydynt yn dilyn eu cynlluniau Brexit caled.
Yn hynny o beth, rwyf wedi cyhoeddi gwahoddiad agored i Theresa Villiers i ymweld â ffermydd yng Nghymru yn fuan iawn er mwyn deall yn well yr heriau unigryw y mae ffermydd teuluol Cymru yn eu hwynebu pe bai Brexit heb gytundeb yn digwydd ac yn gobeithio cwrdd â nhw dros yr haf.
Gydag ychydig llai na 100 diwrnod i fynd nes ein bod i fod gadael yr UE - gadewch i ni obeithio na fydd y rhai sydd mewn grym yn anwybyddu'r rhybudd rydyn ni wedi'i roi dro ar ôl tro dros y 3 mlynedd diwethaf. Yn wir, i ffermydd teuluol Cymru, y cymunedau yr ydym yn eu cefnogi, mae'r dyfodol mor amhosibl ei ragweld, mae yna bwysau aruthrol ar bob un ohonom.
Gallaf sicrhau ein haelodau bod yr Undeb hon yn gweithio'n galed drostynt gan ein bod yng nghanol argyfwng gwleidyddol. Argyfwng sy'n ganlyniad tair blynedd o ansicrwydd, chwilfrydedd gwleidyddol a chymryd mantais er mwyn budd personol - ar draul pobl y DU.
Ond rydym hefyd wedi bod yn trafod materion pwysig eraill fel yr effaith y mae TB yn cael ar iechyd meddwl, edrych ar y gwahaniaeth rhwng ail-wylltio a chadwraeth a chael trafodaethau cynhyrchiol ar bolisïau ffermio Cymru yn y dyfodol.
Wel, fel yr unig sefydliad ffermio yng Nghymru sy'n benderfynol o amddiffyn y fferm deuluol rydym yn ymdrechu'n gyson i sicrhau bod ein neges yn cyrraedd y lefelau uchaf ar draws y Llywodraeth. Byddwn yn parhau i gyfleu yn y termau cryfaf posibl - anghenion ffermwyr Cymru, beth bynnag sydd ei angen.
I gloi, hoffwn ddiolch i'r staff a'n haelodau am eu gwaith caled a'u cefnogaeth barhaol. Mae wedi bod yn bleser gweithio ochr yn ochr â chi yn ystod wythnos brysur y sioe ac yn sicr edrychaf ymlaen at gwrdd â llawer ohonoch yn ystod y sioeau sirol sydd ar ddod.