Gwasanaethau Yswiriant FUW yw un o brif froceriaid yswiriant Cymru. Trwy weithio’n agos gyda phanel o gwmnïau yswiriant amaethyddol a masnachol arbenigol, mae modd i ni dargedu ystod eang o bolisiau sydd ar gael yn y farchnad gan sicrhau gwerth am arian i’n cwsmeriaid. ‘Rydym wedi meithrin enw da am gynnig gwasanaeth gwybodus a phroffesiynol i gwsmeriaid amaethyddol, cwmnïau bychain, masnachol a chwsmeriaid yswiriant personol ar draws Cymru.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog ac yn ddelfrydol profiad o weithio yn y maes gwasanaethau cwsmeriaid, yswiriant neu wasanaethau ariannol. Byddwch yn gyfrifol am gysylltu wyneb yn wyneb, ar lafar ac yn ysgrifenedig gyda chwsmeriaid presennol a newydd Gwasanaethau Yswiriant FUW.
Fe fyddwch yn ymwneud a phrosesu ac ymdrin â gweithrediadau polisïau yswiriant yn ogystal â dyletswyddau swyddfa cyffredinol.
Pa un ai ydych chi’n berson sydd â phrofiad o’r maes yswiriant neu’n chwilio am her newydd mewn maes newydd, cysylltwch â ni.
Math o swydd: Llawnamser, Parhaol
Cyflog: Dechrau £18,000 y flwyddyn
Tâl ychwanegol:
- Cynllun bonws
- Bonws chwarterol
- Cyfraniad at bensiwn
Trefn gweithio: Llun i Gwener
Iaith: Mae bod yn rhugl yn y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn fantais bendant ar gyfer y swydd hon
I wneud cais, anfonwch eich CV a'ch llythyr eglurhaol at