FUW i gynnal Cynhadledd rithwir Iechyd Meddwl i Gymru Gyfan

Yn anffodus mae iechyd meddwl gwael a hunanladdiad mewn cymunedau gwledig a ffermio yn broblem gynyddol ac yn un y mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi ymrwymo i fynd i’r afael â hi.

Gan agosáu at y bedwaredd flwyddyn o godi ymwybyddiaeth a gwneud popeth o fewn gallu i dorri’r stigma, mae’r Undeb yn cynnal Cynhadledd rithwir Iechyd Meddwl i Gymru Gyfan ddydd Gwener 9 Hydref 2020 trwy Zoom, cyn Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd.

Mae FUW yn deall y gall problemau iechyd meddwl effeithio ar allu unigolyn i brosesu gwybodaeth a datrys problemau, sugno eu hegni a’u cymhelliant, a chynyddu ymddygiad byrbwyll. Tra bod y symptomau’n cael eu trin, yn aml iawn, nid yw achosion sylfaenol y materion hyn yn cael sylw.

Bydd y gynhadledd hon yn mynd y tu hwnt i’r pwyntiau trafod arferol ac yn archwilio’r pwnc ymhellach. Mae’n ddigwyddiad agored ac mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb mewn iechyd meddwl ymuno â ni, yn rhithwir, ar y diwrnod.

Bydd sesiwn y bore yn archwilio cyd-destun ehangach iechyd meddwl gwael mewn cymunedau gwledig a pha gamau y mae’n rhaid i Lywodraethau, y rhai sy’n gwneud penderfyniadau a llunwyr polisi eu cymryd i fynd i’r afael â’r sefyllfa, yn enwedig gan fod Covid-19 wedi rhoi pwysau pellach nid yn unig ar iechyd meddwl pobl ond hefyd pwysau ariannol.

Ymhlith y siaradwyr ar gyfer sesiwn y bore, sy’n dechrau am 10.30am ac sy’n cael ei gadeirio gan Brif Ohebydd y Farmers Guardian Abi Kay mae:

  • Sara Lloyd, Arweinydd Tîm, Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol De Ceredigion
  • Cath Fallon, Pennaeth Cyfarwyddiaeth Menter ac Animeiddio Cymunedol, Cyngor Sir Fynwy
  • Lee Philips, Rheolwr Cymru, Gwasanaeth Arian a Phensiynau
  • John Forbes-Jones, Rheolwr Corfforaethol Gwasanaethau Lles Meddwl, Cyngor Ceredigion

Bydd sesiwn y prynhawn, sy’n dechrau am 2yp, yn cymryd agwedd mwy ymarferol ac yn clywed gan amrywiol elusennau iechyd meddwl ymroddedig sy’n cynnig cyngor ymarferol i’r rhai sy’n cefnogi anwylyn sy’n dioddef o anawsterau iechyd meddwl yn ogystal â’r rhai sy’n profi iechyd meddwl gwael ar hyn o bryd.

Ymhlith y siaradwyr yn sesiwn y prynhawn, sy’n cael ei gadeirio gan y Cyflwynydd Teledu adnabyddus Alun Elidyr, mae:

  • Gareth Davies, Prif Swyddog Gweithredol, Tir Dewi
  • David Williams, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Cymru, Farming Community Network
  • Kate Miles, Rheolwr Elusen, The DPJ Foundation
  • Linda Jones, Rheolwr Rhanbarthol, RABI Cymru

Mae’r gynhadledd yn ddigwyddiad agored a gall y rhai sy’n dymuno ymuno gofrestru yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/all-wales-mental-health-conference-tickets-121009788535