FUW yn cynnal cynhadledd iechyd meddwl Cymru gyfan

Ar noswyl Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd (Dydd Gwener, Hydref 9), cynhaliodd FUW gynhadledd Iechyd Meddwl Cymru Gyfan rithwir, a fu’n archwilio cyd-destun ehangach iechyd meddwl gwael o fewn cymunedau gwledig, a pha gamau sydd angen eu cymryd gan y Llywodraeth a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ac yn llunio polisïau, i fynd i’r afael â’r sefyllfa, yn enwedig am fod Covid-19 yn debygol o roi pobl dan fwy o bwysau, yn feddyliol ac yn ariannol.

Cafodd y digwyddiad gefnogaeth hefyd gan Weinidog Yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths, a’r ffermwr a hyrwyddwr iechyd meddwl o Seland Newydd, Doug Avery, drwy neges fideo.

Yn dilyn y Gynhadledd, mae FUW wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, Eluned Morgan, yn amlinellu rhai o’r pwyntiau allweddol a godwyd yn ystod y gynhadledd.

Un pwynt a gododd dro ar ôl tro yn ystod y digwyddiad oedd yr angen i ystyried ffermwyr fel grŵp o bobl sydd â gofynion ac anghenion gwahanol mewn perthynas ag iechyd a lles meddyliol. Rhaid cael strategaeth yn ei lle yn y dyfodol sy’n golygu nad yw ffermwyr sy’n cael help ar gyfer eu hiechyd meddwl gwael drwy eu Meddyg Teulu yn cael eu trin yn y dull cyffredinol sy’n cyd-fynd â’r polisi presennol.

Pwysleisiwyd yn ystod y gynhadledd hefyd nad yw cael cymorth iechyd meddwl drwy Feddyg Teulu yn broses syml bob tro, ac yn aml gall cyfnod hir o amser fynd heibio cyn i’r unigolyn gael yr help sydd ei angen.

Os wnaethoch chi golli’r digwyddiad, gallwch ddal i fyny â’r sesiynau a recordiwyd yn adran yr aelodau o’r wefan: https://www.fuw.org.uk/en/members/member-seminars