Bil Amaeth y DU yn cael Cydsyniad Brenhinol ac yn agor y drws i effeithiau peryglus

Daeth y dadleuon am Fil Amaeth y DU i ben pan gafodd hwnnw Gydsyniad Brenhinol ar 11eg Tachwedd a dod yn Ddeddf Amaeth 2020, yn dilyn misoedd o drafodaethau a chwarae ‘ping pong’ rhwng Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi.

Mae’r Ddeddf yn amlinellu sut y bydd cymorth i ffermwyr Lloegr yn cael ei ddarparu yn y dyfodol, wrth i’r DU ymadael â Pholisi Amaethyddol Cyffredin yr UE, yn ogystal â gosod y ddeddfwriaeth mewn perthynas ag ystod eang o faterion amaethyddol a gwledig sy’n berthnasol i Gymru a’r DU - gan gynnwys caniatáu pwerau dros dro i Weinidogion Cymru nes bod Bil Amaeth yn cael ei gyflwyno ar gyfer Cymru.

Serch cael y mwyaf o sylw mewn perthynas â diogelu safonau Prydain o ran diogelwch bwyd a lles anifeiliaid, cafodd gwelliant a gyflwynwyd yn gofyn bod mewnforion amaethyddol a bwyd ar ôl Brexit yn cwrdd â’r un safonau â rhai’r DU, ei drechu.

Er bod y dadleuon wedi dod i ben ar y Bil Amaeth, mi ellid cynnwys y mesurau diogelu cyfreithiol hyn fel rhan o’r Bil Masnach newydd, sy’n dal i wneud ei ffordd tuag at y cam adrodd yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Yn hytrach, mewn ymateb i’r lefel o ddiddordeb mewn ‘diogelu’n safonau’, mae’r Comisiwn Masnach ac Amaeth newydd wedi cael statws statudol am y tair blynedd nesaf, gan ddarparu lefel ychwanegol o graffu wrth negodi cytundebau masnach. Bydd y Comisiwn yn gorfod adrodd i Senedd San Steffan ar y modd y gallai cytundeb masnach rydd newydd effeithio at safonau’r DU. Fodd bynnag, nid dyma’r llinell goch yn atal mewnforion bwyd is-safonol y bu ffermwyr, amgylcheddwyr, ymgyrchwyr dros hawliau anifeiliaid, a miliynau o aelodau’r cyhoedd yn lobïo amdani.

Ar ben hynny, mae’r Ddeddf yn caniatáu i’r Ysgrifennydd Gwladol ddarparu cymorth yn Lloegr ar gyfer deg o feysydd sy’n ymwneud yn bennaf â’r amgylchedd, ac er bod cynhyrchedd amaethyddol ac ystyriaeth i gynhyrchu bwyd yn ymddangos yn y ddeddfwriaeth, mae yna bellhau sylweddol oddi wrth egwyddorion sylfaenol y Polisi Amaethyddol Cyffredin pan ddaw hi’n fater o ddiogelu incwm a chymunedau gwledig.

Ochr yn ochr â pholisïau amgylcheddol, mae Undeb Amaethwyr Cymru’n parhau i annog Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i roi lle canolog i faterion megis cyflogaeth yng nghefn gwlad, a lles economaidd teuluoedd ffermio a chymunedau gwledig, wrth ddatblygu polisïau yn y dyfodol. Ymddengys bod Yr Alban wedi gwneud hynny, o ystyried bod gweinidog amaeth Yr Alban, Fergus Ewing, wedi dweud wrth y gynulleidfa rithwir yn y digwyddiad AgriScot y gallai cymorth BPS gael ei ymestyn tu hwnt i 2024, ei fod ef wedi ymrwymo’n bersonol i gadw taliadau uniongyrchol, a’i fod o’r farn y byddai torri’r holl gymorth uniongyrchol yn ‘anghynaliadwy’ oherwydd byddai dwy ran o dair o ffermwyr yn gwneud colled hebddo.

 

 

 


Argraffu