Senedd yn gwrthod y ddeddf fasnach ôl-Brexit

Mae Bil Marchnad Fewnol dadleuol Llywodraeth y DU yn parhau ar ei daith trwy San Steffan ac yn y camau ‘ping pong’, a hynny er iddo gael ei wrthod sawl gwaith gan Dŷ’r Arglwyddi.

Nod y Bil yw sicrhau bod masnach yn parhau oddi fewn i’r DU yn ddi-rwystr. Yn ddiweddar pleidleisiodd gwrthwynebwyr Llafur a Phlaid Cymru yn erbyn y bil, oherwydd y perygl o ganoli grym yn Llundain ac o ganlyniad tanseilio datganoli.

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd yn tanseilio gallu’r Senedd i reoleiddio nwyddau a gwasanaethau. Mae Senedd Yr Alban eisoes wedi penderfynu peidio â chymeradwyo’r bil, ac mae pleidlais debyg yn erbyn wedi ei chynnal yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon.

Ers pleidlais Brexit yn 2016, mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi amlygu’r perygl o wahaniaethau posib rhwng safonau a rheolau mewn gwahanol rannau o’r DU – a’r angen i ddod i gytundeb a rhoi mecanweithiau yn eu lle sy’n parchu datganoli a hynny cyn gynted â phosib er mwyn osgoi hyn rhag digwydd.

Bwriad Llywodraeth y DU bellach yw i dynnu’n ôl y cymalau a fyddai wedi rhoi’r grym i weinidogion y DU i ddisytyru rhannau o’r cytundeb ymadael Brexit er mwyn osgoi torri cyfraith rhyngwladol.