Diweddariad BCMS ar ddiwygio pasbortau gwartheg

Mae Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS) wedi cyhoeddi bod modd postio newidiadau i basbortau gwartheg unwaith eto erbyn hyn.

Oherwydd pandemig Covid-19, roedd BCSM wedi gofyn i geidwaid gwartheg anfon newidiadau i basbortau dros e-bost, i leihau’r angen i deithio.

Os yn bosibl, ac os ydy’r cyfyngiadau’n caniatáu, mae BCMS yn gofyn erbyn hyn bod ceidwaid gwartheg yn dychwelyd i’r broses bostio wreiddiol:

Ysgrifennwch ar y pasbort pa wybodaeth sydd angen ei newid

  • Os ydy’r newid yn ymwneud â’r dyddiad geni, neu os oes angen gwneud mwy na 3 newid, dylech hefyd anfon copi o’ch cofnodion lloia
  • Postiwch y pasbort gwreiddiol i:
    British Cattle Movement Service, Curwen Road, Workington, CA14 2DD
  • Fe’ch cynghorir hefyd i ofyn am brawf postio

Cymerwch olwg arall ar y ceisiadau pasbort cyn eu postio i osgoi gwneud newidiadau pellach yn nes ymlaen.

Mae BCMS yn dal i dderbyn newidiadau dros e-bost os nad oes modd postio.

Ar dderbyn y pasbort(au), bydd BCMS yn gwneud y newid(iadau) angenrheidiol ac yn anfon y pasbort(au) wedi’i (d)diweddaru yn ôl atoch drwy’r post, a bydd yn cysylltu â chi os oes angen unrhyw wybodaeth bellach.

Os oes gennych chi gwestiynau pellach, e-bostiwch BCMS ar This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. neu ffoniwch y llinell gymorth ar 0345 050 1234

Mae’r System Olrhain Gwartheg (CTS) Ar-lein hefyd yn wasanaeth ar-lein rhad ac am ddim sydd ar gael ar wefan BCMS y gellir ei defnyddio i roi gwybod am enedigaethau, symudiadau a marwolaethau. Cysylltwch â BCMS drwy’r dulliau uchod i gael mynediad.