Y diweddaraf am yr effaith ar fasnachu ar ôl i gyfnod pontio Brexit ddod i ben

Penderfynodd nifer fawr, os nad y rhan fwyaf o allforwyr, beidio ag allforio neu allforio cyn lleied a phosib yn ystod wythnos gyntaf Ionawr. Roedd yna, serch hynny, amryw o broblemau sylweddol i’r rhan fwyaf, os nad pob un o’r sectorau bwyd, er bod y meintiau’n isel iawn.

Mae manylion ac enghreifftiau pellach fel a ganlyn:

  • Mae nwyddau a allforir mewn grwpiau (cymysgedd o nwyddau mewn un llwyth lori) yn wynebu problemau mawr, sy’n golygu silffoedd gwag yn nifer o archfarchnadoedd Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon, a phroblemau tebyg gyda llwythi a allforir i dir mawr Ewrop. Mae lorïau’n gorfod cario bocs-ffeiliau cyfan yn llawn gwaith papur ar gyfer y nwyddau maent yn eu cludo. Mae un o gynrychiolwyr y diwydiant yn credu bod hon yn broblem gynhenid gyda rheolau pob ‘trydedd wlad’ yn hytrach na phroblem gychwynnol.
  • Mae 30% o’r holl allforion yn wynebu archwiliadau. Mae hyn yn cymharu ag 1% o holl fewnforion Seland Newydd i’r UE (sy’n tueddu i fod yn un cynnyrch megis cig oen, ac felly’n symlach o lawer i ddelio ag ef na’r amrywiaeth eang o gynnyrch mae’r DU yn ei allforio i dir mawr Ewrop).
  • Er bod y Gweinidog Trafnidiaeth wedi nodi nad oedd unrhyw fodd o ymestyn y rhestr flaenoriaeth ar gyfer lorïau i gynnwys ‘nwyddau’ mwy darfodedig/bregus (gan gynnwys cywion diwrnod oed), mae’r Llywodraeth wedi cynnig ymestyn y rhestr flaenoriaeth i hwyluso’r drefn i archfarchnadoedd sydd am anfon cynnyrch i Gibraltar.
  • Nid yw allforion cywion byw wedi wynebu unrhyw broblemau sylweddol am fod y diwydiant wedi penderfynu anfon meintiau cymharol fach, ac mae nifer y lorïau sy’n mynd trwy’r porthladdoedd yn gyffredinol isel hefyd am resymau tebyg, gan olygu bod llai o broblemau.
  • Dan y rheolau masnach newydd, mae sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn dilyn y broses rendro dan waharddiad symud 40 diwrnod (ar gyfer yr anifeiliaid maent yn dod ohonynt). Gobeithir bod hyn oherwydd amryfusedd o ran newid y rheolau, am nad yw’r gwaharddiad 40 diwrnod yn berthnasol gyda sgil-gynhyrchion anifeiliaid, a’r gobaith yw y bydd yn cael ei newid.
  • O ganlyniad i hyn a materion cysylltiedig, mae cwmnïau rendro’n wynebu problemau mawr yn allforio sgil-gynhyrchion anifeiliaid. Deallir bod yna, yn yr wythnos yn gorffen 15fed Ionawr, ymhell dros 100 o danceri’n sownd ym mhorthladoedd y DU, yn methu â chroesi i’w cyrchfannau ar dir mawr Ewrop. Os na fydd yna symud yn fuan, mae pryderon mawr na fydd gan broseswyr cig unrhyw le i gael gwared â’r sgil-gynhyrchion, ac oni bai bod yna gyfleusterau storio amgen, bydd yn rhaid iddynt roi’r gorau i weithredu. Mae pryderon tebyg am yr effeithiau ar gasglu stoc drig, ond mae’r rhan fwyaf o’r cynnyrch o rendro stoc drig yn cael ei ddefnyddio yn y DU yn hytrach na’i allforio, sy’n lleihau’r risg.
  • Mae allforion cig eidion a chig oen yn isel ar hyn o bryd ond disgwylir iddynt godi, ac mae pryderon y gallai’r cynnydd hwn arwain at fwy o broblemau ac oedi yn y porthladdoedd – mae angen cadw cwsmeriaid hirsefydlog ar dir mawr Ewrop yn hapus drwy sicrhau cyflenwadau, fel nad ydynt yn chwilio mewn mannau eraill.
  • Ymddengys bod y nodiadau cyfarwyddyd ar Dystysgrifau Iechyd Allforio a ddarperir gan Defra i filfeddygon y DU, Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd ac ati, yn wahanol i’r canllawiau a gynhyrchir yn yr UE, ac mae hyn yn achosi nifer o broblemau.
  • Mae coronafeirws wedi achosi nifer o broblemau i’r diwydiant moch, yn arbennig yn nhermau prosesu hychod i’w difa, sydd wedi creu tagfa yn y system. Mae’r brif farchnad ar gyfer hychod ar y cyfandir, ac mae’r oedi wedi ychwanegu at y problemau felly.
  • Mae angen 70 i 80 o stampiau ar rai Tystysgrifau Iechyd Allforio, a gallant gael eu gwrthod os ydy rhai o’r stampiau ar goll neu hyd yn oed os yw lliw y stamp yn anghywir.
  • Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cynnig darparu cymorth milfeddygol ychwanegol i helpu proseswyr os oes angen.
  • Nid yw’r diwydiant llaeth yn wynebu unrhyw broblemau mawr ar hyn o bryd, ond mae ‘na bryder y bydd problemau gyda chynnyrch fel hufen swmp yn golygu bod y prisiau’n gostwng erbyn Mawrth neu Ebrill (dyna faint o amser mae’n cymryd i effeithiau o’r fath weithio’u ffordd yn ôl at y prisiau ar gât y fferm).