FUW yn croesawu’r cyhoeddiad i ddiogelu cyllideb Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS)

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad a wnaed gan y Gweinidog Lesley Griffiths ar 21ain Rhagfyr 2020, sef bod yr uchafswm taliadau uniongyrchol wedi’i osod ar £238 miliwn, er mwyn darparu’r un lefel o daliadau i ffermwyr yn 2021 â’r llynedd.

O ystyried cyhoeddiad Llywodraeth y DU ar 25ain Tachwedd 2020, y byddai dyraniad blwyddyn ariannol 2021-2022 Cymru ar gyfer amaethyddiaeth a datblygu gwledig yn £242 miliwn, sef £137 miliwn yn llai na’r hyn a addawyd o ystyried y trosglwyddo o golofn i golofn, mae’n dda nodi bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi blaenoriaeth i daliadau uniongyrchol i ffermwyr, i ddarparu sefydlogrwydd sydd ei wir angen dan amgylchiadau mor anodd.

Gwnaed hyn yn bosib drwy greu Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol etc) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (2020/1556) ar 16eg Rhagfyr, a ganiataodd i Lywodraeth Cymru osod y gyllideb BPS flynyddol ar gyfer Cymru, i ddefnyddio dull symlach o gyfrifo taliadau BPS, a chael gwared â thaliadau Gwyrddu.

Mae’r dyraniad hwn yn un hynod o bwysig er mwyn cefnogi amaethyddiaeth yng Nghymru dros y 12 mis nesaf, o ystyried yr ansicrwydd presennol ac effeithiau diwedd cyfnod pontio Brexit. Fodd bynnag, dylid nodi bod yna ddiffyg cyllidebol rhywle yn y system, sy’n creu her i Lywodraeth Cymru pan ddaw hi’n fater o ariannu prosiectau datblygu gwledig.

Bydd manylion llawn y newidiadau i’r rheolau BPS ar gyfer 2021 yn cael eu hamlinellu yn Llyfryn Rheolau Cynllun y Taliad Sylfaenol 2021 a gyhoeddir yn Chwefror, gan gynnwys y newidiadau i’r modd y cyfrifir gwerth hawliau BPS.