Rheoliadau Adnoddau Dŵr ‘NVZ’ – beth nesaf?

Serch yr ymdrech arwrol a wnaed gan y diwydiant ffermio i annog Aelodau’r Senedd i bleidleisio i ddiddymu Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) yn y Senedd ar 3ydd Mawrth 2021, cafodd y cynnig ei drechu o drwch blewyn, o 30 pleidlais i 27.

Felly, fel mae pethau’n sefyll ar hyn o bryd, bydd y rheoliadau’n dod yn rhan o’r gofynion trawsgydymffurfio dan Ofyniad Rheoli Statudol (SMR) 1 o Ebrill 2021.

  • Wythnos yn dechrau 22ain Mawrth 2021 – Taflen ffeithiau SMR1 ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru a neges yn cael ei hanfon i bob ffermwr drwy RPW Ar-lein. Mae’r daflen ffeithiau’n amlinellu’r rheoliadau sydd ar fin dod yn gyfraith o 1af Ebrill, a bydd yn cael ei diweddaru cyn y newidiadau yn 2023 a 2024.
  • Wythnos yn dechrau 22ain Mawrth 2021 – Canllawiau llawn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, gan gynnwys dau gwestiwn a ofynnir yn aml – bydd un o’r rheiny’n canolbwyntio ar ffermwyr tenant.
  • Cynhyrchir arweinlyfr maes o law i helpu ffermwyr i wneud y cyfrifiadau gofynnol, ac i roi arweiniad ar y cofnodion a fydd yn ofynnol o 1af Ionawr 2023.
  • 25ain Mawrth 2021 - bydd Cyswllt Ffermio’n lansio canllawiau fideo. Hefyd, bydd modiwlau e-ddysgu, digwyddiadau ar-lein a digwyddiadau wyneb yn wyneb (pan fydd cyfyngiadau Covid-19 yn caniatáu) yn cael eu lansio dros y misoedd nesaf.

Bydd yr amserlen, ynghyd â chrynodeb o’r rheoliadau ar gael yn rhifyn Ebrill Y Tir.

Ymddengys bod y frwydr hon wedi’i cholli ond nid yw’r rhyfel drosodd o bell ffordd. Mae FUW, ar ran ei aelodau, wedi ymrwymo i wneud ei orau i ddwyn y Llywodraeth nesaf yng Nghymru i gyfrif, i ddiddymu, neu o leiaf i newid trywydd y rheoliadau draconaidd, costus ac anghymesur hyn.