Gweminar FUW ‘Cŵn yn Poeni Da Byw – ydych chi’n ymwybodol o’ch hawliau?’ yn rhoi gobaith

Mae troseddau gwledig wedi dod yn broblem fawr i gymunedau ffermio a chefn gwlad Cymru, gyda mwy a mwy o adroddiadau am gŵn yn poeni da byw, a lladrata da byw a pheiriannau amaethyddol ar gynnydd.

Y mwyaf perthnasol o’r rhain i’r diwydiant amaeth yng Nghymru yw cŵn yn poeni ac yn ymosod ar dda byw. Mewn ymdrech i daclo ymosodiadau ar dda byw a chodi ymwybyddiaeth o’r problemau sy’n gysylltiedig â digwyddiadau o’r fath, lansiodd FUW ei ymgyrch ‘Eich Ci Chi, Eich Cyfrifoldeb Chi’ yn 2019, oedd yn cynnwys arwyddion rhybudd ar gatiau ffermydd, i ddarparu ffermwyr â ffordd ymarferol o atgoffa’r rhai sy’n cerdded eu cŵn yn ymyl da byw o’u cyfrifoldebau a’r peryglon posib.

O ystyried y cynnydd sylweddol yn y nifer o bobl a fu’n defnyddio hawliau tramwy cyhoeddus yng Nghymru yn ystod y pandemig, ac yn sgil hynny, y cynnydd yn nifer y cŵn sy’n cael eu cerdded yn ymyl da byw, cynhaliodd FUW weminar ar-lein yn dwyn y teitl ‘Cŵn yn Poeni Da Byw – ydych chi’n ymwybodol o’ch hawliau?’ gyda siaradwyr o Dîm Troseddau Gwledig Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Dyfed Powys, i daflu goleuni ar y cyfreithiau presennol mewn perthynas â chŵn yn ymosod ar dda byw.

Yn ôl Tîm Troseddau Gwledig Heddlu Gogledd Cymru, roedd 449 o achosion o gŵn yn poeni da byw rhwng 2013 a 2017, gyda 648 o anifeiliaid yn cael eu lladd a 376 yn cael eu hanafu, er bod 89 y cant o’r ymosodiadau hyn gan gŵn oedd wedi dianc o’u cartref.

Fodd bynnag, am nad yw’r Swyddfa Gartref yn gofyn bod lluoedd heddlu’n cofnodi ymosodiadau ar dda byw, ni wyddys beth yw maint yr effaith go iawn ar yr economi, cyflenwadau bwyd, cymunedau a busnesau ffermio.

Cyflwynwyd y Ddeddf Cŵn (Amddiffyn Da Byw) yn 1953, pan oedd ffermio a pholisïau fel ei gilydd yn wahanol, ac felly nid yw bellach yn addas i’r diben o ran darparu pwerau plismona digonol yn erbyn ymosodiadau ar dda byw.

Fel rhan o adroddiad Gweithgor Poeni Da Byw yr Heddlu yn 2018, galwodd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu am y canlynol:

  • Symud i ffwrdd o anifeiliaid rhestredig er mwyn canolbwyntio ar ymateb ar y cyd, gan gynnwys alpacas a lamas
  • Ehangu’r diffiniad o dir amaethyddol fel bod modd delio ag ymosodiadau ar dda byw ar dir nad yw’n amaethyddol
  • Diffinio beth mae ‘cadw’ch ci dan reolaeth glos’ yn ei olygu i osgoi dryswch
  • Darparu pŵer i’r heddlu chwilio am, a chymryd cŵn
  • Bod â’r gallu i gael samplau DNA gan gŵn sydd dan amheuaeth
  • Gofyniad ffurfiol i bob heddlu gofnodi achosion o ymosod ar dda byw gyda’r Swyddfa Gartref er mwyn cael darlun clir o’r problemau hyn
  • Bod â’r gallu i roi iawndal a dirwyon drwy Lys y Goron ar gyfer troseddau o’r fath.

Er gwaetha’r ffaith bod Deddf Cŵn (Amddiffyn Da Byw) 1953 yn ddeddfwriaeth ar gyfer Cymru a Lloegr, mae FUW yn teimlo’n gryf y dylai’r Llywodraeth nesaf yng Nghymru wneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, er mwyn darparu heddluoedd ar draws Cymru a Lloegr â phwerau digonol i erlid troseddwyr ymosodiadau ar dda byw.

Hefyd, mae FUW yn glir bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gadw at ei chyhoeddiad i sefydlu rôl Cydlynydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt ar gyfer Cymru gyfan, er mwyn gallu taclo pob math o droseddau gwledig a bywyd gwyllt ar draws heddluoedd Cymru.