Yr Undeb yn cymryd camau yn erbyn hysbyseb Peta yn y Daily Post

Cafodd aelodau FUW eu cythruddo gan hysbyseb tudalen lawn gan PETA (People for the Ethical Treatment of Animals) a ymddangosodd yn y Daily Post ar 24ain Mawrth 2021, yn galw ar aelodau’r cyhoedd i chwythu’r chwiban, ac anfon lluniau, fideos neu dystiolaeth ysgrifenedig o droseddau lles anifeiliaid ar ffermydd llaeth, megis carnau hollt, gwartheg yn methu sefyll, cloffni heb ei drin, briwiau all fod oherwydd diffyg gwasarn, mastitis heb ei drin, lloi tan bwysau, buchod wedi’u gorchuddio â thom, a cham-drin yn ystod ffrwythloni artiffisial, i enwi ond ychydig.

Mewn ymateb i’r hysbyseb, cysylltodd FUW â thîm golygyddol y Daily Post, yn pwysleisio bod cyhoeddi hysbyseb sy’n annog y cyhoedd i dresmasu ar dir ffermio nid yn unig yn rhoi straen ar yr anifeiliaid, ond hefyd yn beryglus i’r sawl sy’n mynd ar gyfyl y da byw – yn enwedig am y bydd llawer o’r buchod â lloi yr adeg hon o’r flwyddyn. Yn ein gohebiaeth, mi wnaethon ni bwysleisio bod yr hysbyseb hwn wedi ymddangos ar yr un pryd â llacio’r cyfyngiadau teithio oherwydd Covid, a gwyliau ysgol y Pasg, gan gynyddu’r pryder y gallai aelodau’r cyhoedd fentro i sefyllfaoedd peryglus er mwyn ceisio cydymffurfio â chais ymfflamychol PETA.

Mewn llythyr i’r tîm golygyddol, dywedodd Llywydd FUW, Glyn Roberts: “Mae'n bosib iawn y bydd unigolion sy’n gweithredu o ganlyniad i’r hysbyseb hwn yn camddeall y sefyllfa, a gall camddealltwriaeth o’r fath wneud niwed i enw da’r diwydiant, os bydd y cyhoedd yn penderfynu rhannu fideos a lluniau allan o’u cyd-destun, yn seiliedig ar eu dealltwriaeth rannol o beth yw gofal cywir o anifeiliaid fferm.


“Trwy gyhoeddi hysbyseb o’r fath, rydych chi’n rhoi cymorth uniongyrchol i sefydliad sydd, yn y bôn, am danseilio’r diwydiant amaeth mewn unrhyw ffordd bosib. Er ein bod yn deall bod angen i’r papur gynhyrchu incwm drwy hysbysebu, mae cyhoeddi’r hysbyseb hwn yn bradychu’r diwydiant ffermio ym marn ein haelodau, sydd hyd yma wedi bod yn uchel iawn eu parch o’r Daily Post am y sylw mae’n ei roi i faterion amaeth a ffermio yng Nghymru.”

Gofynnodd FUW i’r papur gyhoeddi erthygl olygyddol lawn cyn penwythnos gŵyl y Pasg, yn mynd i’r afael â’r broblem o dresmasu ar dir ffermio, ac yn rhoi cyfle i’r diwydiant i roi esboniad cywir o faterion lles anifeiliaid. Cyhoeddwyd honno ar Ddydd Iau 1 Ebrill.

Mae FUW wedi croesawu’r ffaith bod y Daily Post wedi cydnabod y pryderon a godwyd.

Mae manylion pellach ac erthygl lawn y Daily Post i’w gweld yma.