Llywodraeth Cymru’n diddymu cymorth ardrethi ar gyfer cynlluniau ynni dŵr preifat

O Ebrill 2021, mae Llywodraeth Cymru wedi newid ei Chymorth Ardrethi Annomestig (busnes) ar gyfer y cynllun grant Ynni Dŵr fel ei bod yn helpu prosiectau ynni dŵr cymunedol yn unig gyda’u biliau ardrethi, cynllun sydd wedi darparu £1m o gymorth i’r sector hyd yn hyn dros y pedair blynedd diwethaf.

Mae’r grant yn rhyddhau busnesau yng Nghymru rhag y cyfraddau busnes uchel mae cynlluniau ynni dŵr yn gymwys i’w talu.

Bydd amseriad diddymu‘r cymorth hwn yn cael effaith niweidiol sylweddol. Mae Cymdeithas Ynni Dŵr Prydain (BHA) o’r farn y bydd hyn yn effeithio ar tua 50 o gynlluniau preifat, sef 75% o’r sector cynlluniau ynni dŵr graddfa fach, ac mi all nifer ohonynt fethu â dal ati.

Mae hwn yn benderfyniad annoeth ac mae’n tanseilio ymrwymiad Llywodraeth Cymru ei hun i daclo’r newid yn yr hinsawdd. Mae Llywodraeth Cymru’n rhoi cyfarwyddyd clir i ffermwyr i arallgyfeirio i fod yn fwy cydnerth, ac mae hefyd yn hyrwyddo ynni adnewyddadwy fel ffordd hanfodol o gwrdd â’n hymrwymiadau o ran y newid hinsawdd, sy’n golygu bod y penderfyniad i ddiddymu’r cymorth ar gyfer y ffermwyr hynny sydd wedi arallgyfeirio, ac sy’n cynhyrchu ynni adnewyddadwy, yn un dryslyd sy’n peri pryder. Mae hyn yn fwy perthnasol fyth o ystyried bod cynhadledd COP26 yn cael ei chynnal yn y DU eleni.

Gwnaed y penderfyniad hwn gan Lywodraeth Cymru ar adeg pan oedd y Pwyllgor Materion Gwledig yn cynnal ymchwiliad i sut y gall Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru gefnogi datblygiad ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn y ffordd orau.

Mae ynni dŵr yn dechnoleg aeddfed, a phrofwyd eisoes y gall ddarparu ffynhonnell ddibynadwy o ynni. Cafodd yr ailwerthusiad o gyfraddau ardrethi busnes yn 2017 effaith ar y sector hefyd, gyda nifer o gynlluniau‘n gweld cynnydd mawr yn eu gwerth ardrethol. Cyflwynwyd y cynllun grant ardrethi yn dilyn y cynnydd hwn, pan gododd gwerth ardrethol rhai gweithredwyr bron 1000%, o’i gymharu â gwerthusiad blaenorol yn 2010.

Mae FUW wedi anfon llythyr at Brif Weinidog Cymru a’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths yn rhybuddio yn erbyn cam mor annoeth, ac yn fwy diweddar, mae wedi dilyn hwnnw gyda llythyr ar y cyd ag NFU Cymru.

Mae’r llythyr yn amlinellu’r uchod ac yn tynnu sylw at ymrwymiad Llywodraeth yr Alban i ymestyn ei chynllun rhyddhau 60% presennol hyd at Fawrth 31ain 2032.

Roedd yr ateb gan y Gweinidog Lesley Griffiths yn esbonio mai mesur tymor byr oedd y cynllun grant a gyflwynwyd yn 2018, tra bod Llywodraeth Cymru’n canfod y rhesymau tu ôl i effaith ailwerthusiad 2017 ar brosiectau ynni dŵr. Nid creu ateb hirdymor na chynnig cymhelliad i gynhyrchwyr newydd oedd y bwriad. Bydd Llywodraeth Cymru’n cael cyfle i ystyried opsiynau cymorth mwy hirdymor ar gyfer ynni dŵr a thechnolegau adnewyddadwy eraill pan gynhelir yr ailwerthusiad nesaf yn 2023.