FUW yn mynegi pryderon mawr am drafodaethau cytundeb masnach rydd y DU-Awstralia

Mae ôl-effeithiau torri neu ail-drafod cytundeb fasnach yn eithafol oherwydd rheolau Sefydliad Masnach y Byd (WTO) a chyfraith ryngwladol, sy'n golygu bod cytundeb fasnach, ar ôl ei llofnodi, yn rhwymo Llywodraethau'r DU presennol a rhai’r dyfodol i'w thelerau.

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) felly wedi mynegi pryderon mawr mewn ymateb i adroddiadau diweddar yn awgrymu y gallai’r telerau a gynigir gan Adran Masnach Ryngwladol Llywodraeth y DU ar gyfer cytundeb masnach rhwng y DU ac Awstralia ganiatáu cynnydd sylweddol yn y bwyd a gynhyrchir yn Awstralia a allai gael ei fewnforio i’r DU heb dariff.

Caniataodd cytundeb blaenorol yr UE ag Awstralia 7,150 tunnell o gig eidion a 19,186 tunnell o gig oen gael ei fewnforio i wledydd yr UE, ond yn dilyn Brexit rhannwyd y cwota, gan ganiatáu i Awstralia fewnforio 3,761 o gig eidion a 13,335 tunnell o gig oen i'r DU.

Mae Llywodraeth y DU yn ceisio amddiffyn diddymu'r cwota hwn yn raddol ar y sail bod y cyfeintiau mewnforio cyfredol o Awstralia yn is na'r cwota isel hwn ac yn annhebygol o godi.

Ond mae angen gofyn pam y mae Awstralia’n brwydro mor galed i gael mynediad o’r fath yn ystod y trafodaethau, os nad ydyn nhw'n credu y byddan nhw'n cynyddu allforion i'r DU. Mewn gwirionedd, mae nifer o ffynonellau Awstralaidd wedi cadarnhau bod y DU yn darged mawr ar gyfer ehangu eu hallforion, gyda'u hallforiwr cig eidion mwyaf yn rhagweld cynnydd ddengwaith mewn allforion i'r DU.

Mae’n amlwg bod y cyhoedd yng Nghymru a Prydain yn gwrthwynebu agor y llifddorau i fwyd a gynhyrchir i safonau is mewn gwledydd eraill, ac mae UAC yn cefnogi’r rhai yn Defra sy’n brwydro yn erbyn cynigion o’r fath.

Tra bod gweinyddiaethau’r DU wedi ymrwymo i gynyddu rheolau a chyfyngiadau ar ffermwyr, sydd eisoes yn cynhyrchu bwyd i rai o’r safonau uchaf yn y byd, a rhai uwch na gwledydd fel Awstralia, mae cytundebau masnach arfaethedig sy’n caniatáu mewnforio bwyd y byddai’n anghyfreithlon ei gynhyrchu yma yn gwbl annerbyniol, polisi y mae’r Undeb wedi’i fynegi dro ar ôl tro dros y pum mlynedd diwethaf.
Mae ffigurau Llywodraeth y DU ei hun yn amcangyfrif y byddai cytundeb fasnach rydd rhwng y DU ac Awstralia yn cynyddu mewnforion Awstralia i’r DU 82% ac allforion y DU i Awstralia 7%. Amcangyfrifir bod y buddion ar gyfer y DU rhwng 0.01% (un 100fed y cant!) a 0.02% o werth ychwanegol gros y DU dros bymtheng mlynedd.

Dylid cofio hefyd bod yr UE yn gyrchfan i tua thraean o gig oen Cymru, 90% o allforion cig eidion Cymru a 95% o allforion llaeth Cymru. Bydd angen i'r UE godi'r rhwystrau di-dariff sydd eisoes wedi achosi cwymp mawr yn allforion bwyd y DU, er mwyn atal y DU rhag dod yn ddrws cefn i fewnforion sy'n mynd yn groes i'w safonau a'i chytundebau masnach ei hun (byddai methiant gan yr UE i atal y fath fewnforion hefyd yn torri rheolau Sefydliad Masnach y Byd).

Gosododd UAC y pwyntiau hyn yn glir mewn cyfarfod diweddar gyda Gweinidog Polisi Masnach y DU, Greg Hands ac mewn llythyr a anfonwyd at Brif Weinidog y DU, y Gwir Anrhydeddus Boris Johnson AS.

Er y byddem am weld cytundeb masnach gydag Awstralia sydd o fudd i’r DU gyfan, a’r buddiannau posib i amaeth yng Nghymru yn sgil aelodaeth y DU o Bartneriaeth Blaengar a Chynhwysfawr y Môr Tawel (CPTPP), ni ddylai cytundebau o’r fath fod yn niweidiol i amaethyddiaeth y DU.

Yn ogystal, mae’r rownd olaf o drafodaethau masnach rhwng y DU a Seland Newydd yn parhau, ac mae Gweinidog Masnach Seland Newydd, Damien O’Connor wedi dweud ei fod yn ymwybodol o’r adroddiadau yn y cyfryngau am y trafodaethau masnach rhwng y DU ac Awstralia, a’u bod nhw’n disgwyl y bydd yr holl dariffau’n cael eu diddymu, gan gynnwys ar nwyddau amaethyddol. Yn syml, mae Llywodraeth y DU wedi dangos ei chardiau i bawb cyn gosod unrhyw fetiau.

Rhaid i Lywodraeth y DU gadw at ei haddewidion a’i gwerthoedd ei hun drwy atal bwyd o’r fath, sydd wedi’i gynhyrchu i safonau is, rhag cael ei werthu yn y DU, waeth pa mor hir mae’r trafodaethau’n parhau.


Argraffu