FUW yn tynnu sylw at faterion allweddol yn ystod Sioe Frenhinol Cymru rithwir

Bu Undeb Amaethwyr Cymru a Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf. yn trafod a thynnu sylw at llawer o'r materion pennaf sy’n effeithio ar y diwydiant amaeth drwy gyfres o weminarau yn ystod Sioe Frenhinol Cymru rithwir.

Roedd pynciau’r gweminarau’n amrywio o’r argyfwng tai yng nghefn gwlad, y newid yn yr hinsawdd, iechyd meddwl, cysylltedd digidol, a diogelwch fferm.

I’r rhai a fethodd eu mynychu yn ystod wythnos y sioe, maent ar gael i’w gwylio yn adran aelodau gwefan FUW a thudalennau digwyddiadau Sioe Frenhinol Cymru.

Bu cymunedau gwledig ar draws y Deyrnas Unedig dan bwysau oherwydd perchnogaeth ail gartrefi a’r effeithiau cysylltiedig ers degawdau, yn arbennig mewn ardaloedd ‘pot mêl’ megis Parciau Cenedlaethol.
Fodd bynnag, mae’r pandemig coronafeirws wedi cyflymu’r duedd, gan achosi chwyddiant cyflym ym mhrisiau tai a rhoi tai gwledig hyd yn oed ymhellach y tu hwnt i gyrraedd ariannol cymunedau gwledig ac amaethyddol.

Mae’r weminar ‘Mynd i’r Afael â’r Argyfwng Tai Gwledig’ ar gael i’w gwylio eto yma:

Cymraeg: https://www.youtube.com/watch?v=UEa26K5u2sE
Saesneg: https://www.youtube.com/watch?v=-DW1ZdtIUFw

Gan fynd i’r afael â phryderon am y newid yn yr hinsawdd a chynhyrchu bwyd, bu panel o arbenigwyr yn trafod ‘Cynhyrchu bwyd a gofalu am yr amgylchedd‘. Roedd y weminar hon yn cadw’r sgwrs i fynd am gynhrychu bwyd a’r newid yn yr hinsawdd, gan godi ymwybyddiaeth ymhlith defnyddwyr a ffermwyr o’r problemau sy’n wynebu’r diwydiant yn y cyd-destun hwn.

Mae’r weminar ‘Cynhyrchu bwyd a gofalu am yr amgylchedd’ ar gael i’w gwylio eto yma:

Cymraeg: https://www.youtube.com/watch?v=4wwNeyv_3FU

Saesneg: https://www.youtube.com/watch?v=VROb5uz6zjY

Yn ystod wythnos y sioe rithwir, a oedd yn cyd-daro ag Wythnos Diogelwch Fferm, rhoddwyd sylw hefyd i ddiogelwch ar ffermydd, a sut all ffermwyr ddiogelu eu hunain a’u busnesau, mewn gweminar a gynhaliwyd gan Wasanaethau Yswiriant FUW Cyf.

Mae’r Weminar ‘Amddiffyn eich Busnes, Amddiffyn eich Teulu – canolbwyntio ar ddiogelwch fferm‘ ar gael i’w gwylio eto yma: https://royalwelsh.digital/amddiffyn-eich-busnes/?lang=cy

Hefyd, mi lynodd FUW at ei ymrwymiad i ddal ati i ganolbwyntio ar faterion iechyd meddwl tra bod hynny’n parhau i fod yn broblem yn ein cymunedau gwledig. Ar drothwy’r pumed flwyddyn o godi ymwybyddiaeth a gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu i chwalu’r stigma, mi ofynnon ni – sut hwyl sydd arnoch?

Mae’r weminar ‘Iechyd Meddwl – sut hwyl sydd arnoch’ ar gael i’w gwylio eto yma:

Cymraeg: https://www.youtube.com/watch?v=VdlSYThCKlg

Saesneg: https://www.youtube.com/watch?v=YErpjWRUMIc

Yn dilyn arolwg a gynhaliwyd gan Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched Cymru, Cymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad (CLA), Undeb Amaethwyr Cymru, NFU Cymru a CFfI Cymru, a ddangosodd bod dros 50% o’r ymatebwyr o ardaloedd gwledig yn teimlo nad oedd eu cysylltiad rhyngrwyd yn ddigon cyflym a dibynadwy, cynhaliwyd digwyddiad cysylltedd digidol arbennig, i drafod y canfyddiadau a dyfodol cysylltedd digidol yng Nghymru.

Mae’r weminar ‘Cysylltedd digidol: Mynd i’r afael â’r rhaniad digidol rhwng trefi a chefn gwlad‘ ar gael i’w gwylio eto yma: https://www.youtube.com/watch?v=EUDWSH0ln-w