Llywodraeth Cymru’n gosod cynlluniau i gynyddu targedau plannu coed


Mewn datganiad ysgrifenedig diweddar gan Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, datgelwyd bod Llywodraeth Cymru’n bwriadu cynyddu targedau plannu coed i 5,000 o hectarau’r flwyddyn. Targedau blaenorol Llywodraeth Cymru oedd 2,000 o hectarau’r flwyddyn, gan godi i 4,000ha cyn gynted â phosib.

Yn ôl y Gweinidog, mae angen i Gymru blannu 180,000 o hecatarau erbyn 2050 yn unol ag argymhellion y Pwyllgor Newid Hinsawdd. Y llynedd dim ond 290ha o goetir a blannwyd yng Nghymru. Galwodd y Dirprwy Weinidog hyn yn ‘alwad i’r gad’ er mwyn cwrdd ag ymrwymiadau newid hinsawdd, yn ogystal â sicrhau amrywiaeth eang o fuddiannau i Gymru.

Mae Tasglu Coed hefyd wedi canfod bod “cyllid presennol Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhy anghyson ac yn anodd cael mynediad ato. Serch ei bod hi’n bwysig sicrhau bod coetiroedd newydd yn cael eu plannu yn y llefydd iawn ac yn y ffordd iawn, mae’r broses ar gyfer gwneud hynny’n rhy araf a biwrocrataidd.”

Mae Llywodraeth Cymru o’r farn y bydd y targedau diwygiedig hyn yn cael eu cyflawni gan gymunedau, ffermwyr a pherchnogion tir eraill ledled Cymru, yn hytrach na bod coetiroedd newydd yn cael eu plannu gan Lywodraeth Cymru.

Dros y ddwy flynedd nesaf, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £17 miliwn ar gyfer ffenestri newydd y cynllun Creu Coetir Glastir, a bydd Cynllun Gweithredu Coetiroedd i Gymru newydd yn cael ei lansio’n nes ymlaen eleni.

Er nad yw Llywodraeth Cymru’n bwriadu plannu’r “tir mwyaf cynhyrchiol i ffermwyr,” mi fydd y diffiniad o ‘mwyaf cynhyrchiol’ yn bryder i lawer, o ystyried y ganran enfawr o ffermydd Cymru sydd wedi’u categoreiddio fel ‘Ardaloedd dan Anfantais Fawr’.

Mae FUW yn poeni y bydd y symudiad o amaethyddiaeth i goedwigaeth yn cael effaith negyddol ar yr economi wledig. Er enghraifft, mae Gwerth Ychwanegol Gros coedwigaeth a thorri a thrin coed oddeutu £73 yr hectar ar gyfer holl goetiroedd Cymru, o’i gymharu â Gwerth Ychwanegol Gros tir ffermio yng Nghymru, sef £212 yr hectar. Ar ben hynny, mae oddeutu 0.6 o bobl yn gweithio yn y diwydiant coedwigaeth a thorri a thrin coed ar gyfer pob km2 o goetir yng Nghymru, o’i gymharu ag oddeutu 3 o bobl yn gweithio ar ffermydd ar gyfer pob km2 o dir ffermio yng Nghymru.

Dylid nodi hefyd bod mwyafrif llethol y gyflogaeth a’r gweithgaredd economaidd sy’n gysylltiedig â choedwigaeth a thorri a thrin coed yng Nghymru’n digwydd mewn planhigfeydd o goed conwydd.

Mae hyn yn awgrymu y gallai plannu amhriodol gael effeithiau economaidd andwyol iawn mewn sawl ardal o Gymru.

Hefyd, mae nifer yn ofni y bydd buddsoddiad sector preifat, ynghyd â thaliadau am leihau garbon a chymhellion Llywodraeth Cymru’n arwain at newidiadau mewn perchnogaeth tir, gan ail-gyfeirio arian i elusennau busnes a pherchnogaeth tir ar raddfa fawr, sydd wedi’u lleoli tu allan i Gymru.

Tynnodd FUW sylw at beryglon o’r fath yn ei Maniffesto i’r Senedd 2021, gan wneud hi’n glir bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod nad yw plannu coed yn ateb syml o ran lliniaru’r newid yn yr hinsawdd, ac y bydd plannu coed mewn ffordd amhriodol yn cael effaith gatastroffig ar fusnesau, cymunedau ac economïau gwledig.