Rhaid i’r gadwyn gyflenwi dalu mwy i adlewyrchu costau mewnbwn anghynaliadwy medd Pwyllgor Llaeth a Chynnyrch Llaeth UAC

Mae Pwyllgor Llaeth a Chynnyrch Llaeth Undeb Amaethwyr Cymru wedi cytuno’n unfrydol bod angen i’r pris llaeth ar gât y fferm godi’n sylweddol, i wneud iawn am y cynnydd enfawr mewn costau mewnbwn, a achoswyd gan brisiau porthiant, tanwydd, gwrtaith ac ynni uwch - sy’n gysylltiedig i raddau helaeth â’r rhyfel yn Wcráin.

Yn ddiweddar, ysgrifennodd yr Undeb at y manwerthwyr mwyaf yn eu hannog i sicrhau nad yw’r costau mewnbwn cynyddol yn bygwth dyfodol cynhyrchwyr bwyd yng Nghymru a’r DU, a bod ffermwyr yn derbyn pris teg am eu cynnyrch yng ngoleuni’r amgylchiadau presennol.

Mae cynnydd ym mhrisau bwyd y DU yn anorfod, ac er bod gan fanwerthwyr ran i’w chwarae, mae’n hanfodol bod hyn yn cael ei adlewyrchu ar hyd y gadwyn gyflenwi a’i fod yn cyrraedd gât y fferm.

Nododd y pwyllgor broffwydoliaeth ddiweddar gan AHDB y gallai cyfanswm y llaeth a gynhyrchir ar draws Prydain ostwng cymaint â 649 miliwn litr o ganlyniad i’r pwysau ar y diwydiant, a serch bod pris cyfartalog llaeth ar gât y fferm ym Mhrydain wedi codi tua 20 y cant ers y llynedd, mae Kite Consultancy wedi proffwydo y bydd angen i broseswyr llaeth dalu dros 50 ceiniog y litr os ydyn nhw am atal y dirywiad o ran cynhyrchu llaeth.

Roedd hi’n amlwg yn ystod y drafodaeth bod y proffwydoliaethau hyn yn dechrau dod yn realiti i nifer o ffermwyr llaeth Cymru.

Er bod rhai cynhyrchwyr yn derbyn 40 ceiniog y litr a mwy am eu llaeth, roedd un o aelodau’r pwyllgor wedi cyfrifo bod cost dwysfwyd yn unig wedi dyblu, gan gyfateb erbyn hyn i 8 ceiniog y litr, a chafwyd adroddiadau gan eraill am ffigurau tebyg.

Mae hyn heb ystyried y cynnydd dro ar ôl tro ym mhrisiau gwrtaith, tanwydd a llafur, a fydd yn cael mwy a mwy o effaith ar gynhyrchedd wrth i’r flwyddyn fynd rhagddi.

Mynegodd y pwyllgor yr angen brys i bawb sy’n rhan o’r gadwyn gyflenwi gydnabod yr effaith y mae’r cynnydd mewn costau mewnbwn yn ei gael ar gynaliadwyedd tymor byr a hirdymor y sector cynhyrchu llaeth yng Nghymru.

Mae UAC felly yn annog proseswyr llaeth, archfarchnadoedd, a phawb arall sy’n ymwneud â’r gadwyn gyflenwi i gydnabod i ba raddau mae costau mewnbwn wedi codi dros gyfnod mor fyr o amser, ac effaith hyn ar gostau ffermydd, ac ar gynhyrchu llaeth yn nes ymlaen yn y flwyddyn, ac i gymryd camau i sicrhau bod y pris a delir am laeth ar gât y fferm yn llwyr adlewrychu hyn, cyn i fusnesau gael eu heffeithio’n waeth.