Clonc fach gyda Mared yn y mart

Blwyddyn Newydd dda i chi gyd, gobeithio bydd hon yn flwyddyn garedig a lwyddiannus i bob un ohonom ac edrychwn ymlaen yn llawn gobaith ar ddechrau blwyddyn arall.

Mae’n anodd credu bod hi’n 2020! Mae amser wir yn hedfan.  Mae Ladi Fach Tŷ Ni yn tyfu a ddim yn fach bellach!  Ond mae’r angerdd am ffermio’n parhau! Elfen arall sy’n mynd a’i bryd hi yw mynd i’r mart, pan fydd gwyliau ysgol yn caniatáu.  Wrth gofio nôl, roeddwn i hefyd yn hoff iawn o fynd gyda’n nhad i fart Tregaron bob pythefnos yn ystod y gwyliau haf.  Ond beth yw pwysigrwydd ein marchnadoedd erbyn heddiw? 

Un sy’n gwybod yn well na neb yw’n Gweithredwr Yswiriant Mared Hopkins sy’n gofalu am gwsmeriaid gogledd Ceredigion, o Dalybont lawr i Dregaron a draw i Lanrhystud.  Elfen hollbwysig o waith bob dydd Mared yw mynychu marchnadoedd da byw yr ardal, mart gwartheg yn Nhregaron bob am yn ail ddydd Mawrth a mart defaid bob dydd Gwener. Mae mart Aberystwyth yn fisol, a mart Pontarfynach yn cael ei gynnal o fis Gorffennaf tan fis Rhagfyr yn wythnosol, wedyn yn fisol o fis Ionawr i fis Mai.

Dyma Mared i esbonio mwy am ei gwaith yn y mart:-

Pa mor bwysig yw marchnadoedd bach yr ardal i dy waith?

Yn fy ardal i yng Ngogledd Ceredigion, mae yna farchnad anifeiliaid byw yn Aberystwyth, Pontarfynach a Thregaron. Rwy’n ceisio mynychu bob un o fewn rheswm. Rwy’n ferch fferm felly mae’r diddordeb yno ac mae’n gyfle i fi gael sgwrs gyda chleientiaid presennol a lledu croeso i gwsmeriaid newydd. Mae fy nghefndir yn galluogi mi i ddeall y gofidiau sydd yn gysylltiedig â ffermio, a hefyd yn ymwybodol o’r ansicrwydd sydd o’n blaenau.

Yn aml pan fyddai’n galw i weld pobol yn ei cartrefi i drafod ei yswiriant ac ati – fydd y pwnc o brisiau’r mart yn dod i fyny bron bob amser, felly mae’n handi i gael gwybod y ‘trade’ fel petai. Mae ‘word of mouth’ yn allweddol i sut rwyf wedi datblygu yn fy ngwaith ac mae mynychu'r marchnadoedd yma wedi chwarae rhan fawr. Mae dangos fy wyneb mewn lle cydfuddiannol yn ddigon ambell waith, ac os fydd cyfle i roi cyngor neu i roi cynnig ar ei yswiriant, gwnaf bob ymdrech i wneud gyda graen a gofal.

Wyt ti'n gweld dyfodol i farchnadoedd?

Mae’r marchnadoedd yma yn llawn cymeriadau clên gwledig o bob oedran, gyda chenhedloedd o’n blaen ni wedi bod yn ei mynychu a ffermio yn yr ardal ers canrifoedd. Oherwydd hyn rwy’n teimlo bod cefnogaeth y marchnadoedd yma yn gryf a bod y trigolion yn ymwybodol o’r pwysigrwydd i’w cadw, cynnal a’i cefnogi. Mae’r byd yn newid ac mae’r sylw negyddol mae’r byd amaethyddol yn ei gael yn ddiweddar yn annog pobol taw cynnyrch lleol, cynaliadwy sy’n mynd i chware rhan fawr yn nyfodol ffermio dros y byd i gyd. Pryder mwyaf y marchnadoedd bach yma yw’r pris maent yn cael am ei cynnyrch – rydym yn clywed am brisiau yn cwympo a chodi o hyd– does dim sicrwydd gyda’r ffermwyr o gwbl o wythnos i wythnos.

Rwy’n sylwi yn aml fod llawer o’r bobol sydd yn dod i’r marchnadoedd yma yn ei defnyddio fel lleoliad i gwrdd â’i cymdogion, i drafod ei gwaith, newyddion yr ardal a hyd yn oed ei gofidion- mae’n rhan o’i hwythnos. Yn aml glywch chi am ba mor unig yw gweithio yn amaethyddiaeth, mae’n bwysig bod gan y gymuned rhywle fel hyn i fynychu, a gwneud amser i fynd, mae ein bywydau ar frys rhan fwyaf o’r amser a dim digon o oriau yn y dydd.

Fi’n gobeithio yn arw fydd yna ddyfodol i’r marchnadoedd yma – maent yn rhan enfawr o’n diwydiant ni er mwyn gwerthu ein cynnyrch lleol ar stepen y drws, ac yn fwy na dim yn draddodiad arall nad ydym am ei golli yng nghefn gwlad. Mae’r byd yn newid yn gyflym iawn ac fel ni’n gwybod – unwaith chi’n colli rhywbeth mae’n anodd iawn i’w gael nôl.

Mae Mared yn cyfeirio at fart Pontarfynach, dyma esiampl berffaith o fart, er yn gymharol fach o ran maint, sy’n galon y gymuned amaethyddol a hynny ers dros gan mlynedd. Mae pwysigrwydd y martiau yn amhrisiadwy i ffermwyr, a’r ardal leol, esiampl wych o #AmaethAmByth!