Y Prif Weinidog i annerch Cyfarfod Blynyddol UAC

 

Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn edrych ymlaen at groesawu’r Prif Weinidog Carwyn Jones fel prif siaradwr ei chyfarfod blynyddol, sydd i’w chynnal, dydd Llun Mehefin 18, yn Ystafell William Davies, IBERS yn Aberystwyth.

Bydd Llywydd UAC Glyn Roberts yn estyn croeso cynnes i’r digwyddiad a fydd yn dechrau am 1.30yp, gyda sesiwn holi ac ateb ar Brexit a #AmaethAmByth i ddilyn.

Wrth siarad cyn y cyfarfod blynyddol, dywedodd Glyn Roberts: "Rydym yn edrych ymlaen at groesawu'r Prif Weinidog i'n cyfarfod blynyddol, sy'n debygol o fod y cysylltiad olaf â UAC yn ei rôl bresennol.

"Mae'n addo bod yn brynhawn gwych o drafodaethau materion ffermio, gyda ffocws cryf ar amaethyddiaeth yng Nghymru ar ôl Brexit, yn ogystal â #CyllidFfermioTeg ac rwy'n gobeithio gweld llawer ohonoch yno.

"Ac yn ôl y traddodiad, byddwn hefyd yn datgelu enillwyr Gwobr Owen Slaymaker UAC, Gwobr Aelodau Newydd UAC, a Gwobr Gwasanaeth Hir UAC, yn ogystal ag amrywiaeth o wobrau Gwasanaethau Yswiriant FUW."

UAC yn edrych ymlaen at gyfarfod cyffredinol blynyddol Ynys Môn

 

Mae cangen Ynys Môn o Undeb Amaethwyr Cymru yn edrych ymlaen at groesawu aelodau i’w cyfarfod cyffredinol blynyddol, dydd Gwener Mehefin 1, a gynhelir ym Mhafiliwn Maes Sioe Sir Fôn, i ddechrau am 7.30yh.

Siaradwyr gwadd y noson yw AS Ynys Môn Albert Owen a Dirprwy Lywydd UAC Brian Thomas.

Dywedodd Euros Jones, Swyddog Gweithredol Ynys Môn: "Bydd ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn cynnig llawer i aelodau gnoi cil drosto wrth i ni drafod amaethyddiaeth a Brexit gyda'n dau brif siaradwr.

"Mae’n gyfnod o ansicrwydd i’n diwydiant ac rwy'n edrych ymlaen at drafod y pwnc ymhellach ar y noson. Mae'n addo bod yn noson wych ac rwy'n gobeithio y gall llawer ohonoch ymuno â ni."

Gwahoddir yr aelodau hefyd i ymuno â UAC am dderbyniad caws a gwin o 4yp ymlaen yn swyddfa Llangefni i gwrdd â'u Swyddogion Gweithredol Sirol newydd.

Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Alaw Jones, Swyddog Gweithredol UAC Ynys Môn: "Rydw i'n hynod o gyffrous i gwrdd â llawer mwy o'n haelodau yma yn swyddfa Llangefni, a gobeithio y gallant ymuno â ni am gaws a gwin a llawer o drafodaethau #AmaethAmByth."

Dylai'r rhai hynny sy'n dymuno mynychu'r derbyniad caws a gwin a'r cyfarfod cyffredinol blynyddol gysylltu â swyddfa Llangefni ar 01248 750250.

UAC Sir Gaernarfon yn edrych ymlaen at Ras Aredig

 

Mae ffermwyr yng Ngogledd Cymru'n edrych ymlaen at Ras Aredig sydd i’w chynnal ym Mhorth Gwylan, Tudweiliog, Pwllheli ar ddydd Sadwrn Ebrill 28.

Ar wahân i'r cystadlaethau aredig, bydd y diwrnod hefyd yn cynnwys arddangosiadau o hen beiriannau, stondinau masnach a chystadlaethau eraill, gan gynnwys ffensio, cloddio gyda digger, saethu colomennod clai a thynnu'r gelyn.

Bydd tîm UAC Sir Gaernarfon wrth law i sgwrsio am faterion amaethyddol a bydd lluniaeth ysgafn ar gael.

Dywedodd Cadeirydd UAC Sir Gaernarfon Tudur Parry: "Rydym yn edrych ymlaen at groesawu aelodau'r Undeb i'n stondin am sgyrsiau am y materion amaethyddiaeth ddiweddaraf dros baned o de a gobeithio y gall llawer ymuno â ni ar y diwrnod - diwrnod o hwyl i’r teulu cyfan.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa UAC Sir Gaernarfon ar 01286 672 541.

Fe, Fi, Hi a merched mis Mawrth

gan Angharad Evans, Golygydd y Gymraeg, Y Tir

Mis Mawrth - wel, am fis cythryblus a trafferthus! Cyrhaeddodd y “Beast from the East” a storm Emma gyda’i gilydd gan achosi’r tywydd gwaethaf i’r DU ei weld ers blynyddoedd lawer.

Byddai gwahardd allforio anifeiliaid byw yn annoeth, meddai UAC

Byddai gwahardd allforio anifeiliaid byw yn ‘hynod o annoeth’ o ystyried yr ansicrwydd ynghylch cytundeb masnach a thariffau amaethyddol ar ôl-Brexit, yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru .

Ar Ebrill 9, galwodd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru am dystiolaeth ar waharddiad ledled y DU ar allforio anifeiliaid byw i’w lladd dramor - rhywbeth nad yw'n bosibl tra bod y DU yn parhau i fod yn rhan o'r UE, oherwydd rheolau masnach rydd yr UE.

Dywedodd Llywydd UAC, Glyn Roberts: "Yn naturiol byddwn yn ymgynghori ag aelodau ynghylch y mater hwn, ond ein safbwynt presennol yw y byddai'n annoeth i gyflwyno gwaharddiad ar allforion byw ar yr un pryd â chyflwyno tariffau enfawr posib ar allforion cig i'r UE."

Dywedodd Mr Roberts y gallai gwaharddiad o'r fath fod yn ergyd i ffermwyr defaid, gan y gallai tariffau o tua 50% o werth cynnyrch fod ar gig ar ôl i ni adael yr UE, ac y byddai hyn yn dirywio masnach allforion cig dafad, sy'n cynrychioli o gwmpas traean o werthiant cig oen Cymru.

"Rydym yn gwerthfawrogi pryderon pobl yngl?n ag allforion byw, ond rhaid inni gofio bod safonau lles cyfreithiol yr UE ymhlith yr uchaf yn y byd ac mae'r rhain yn berthnasol yma ac ar dir mawr Ewrop."

Mae sylwadau Mr Roberts yn adleisio rhai Llywodraeth yr Alban.

Wrth ymateb i gynnig tebyg yn gynharach eleni, dywedodd Mr Ewing: "Gadewch imi fod yn hollol glir, dyma un fframwaith ledled y DU na fydd llywodraeth yr Alban yn cymryd rhan ynddo. Ni fyddaf yn cefnogi unrhyw beth sy'n creu heriau neu anawsterau pellach i'n sector amaethyddol neu'n rhoi amaethyddiaeth yr Alban o dan anfantais."

"Felly ni fydd llywodraeth yr Alban yn cefnogi gwahardd allforion anifeiliaid byw, ond byddwn yn parhau i fod yn ymrwymedig i les pob anifail yn ystod cludiant sy'n cydymffurfio â'r safonau trylwyr cyfredol sy'n berthnasol - safonau a rheoliadau a ddarperir gan yr UE, sydd eisoes gyda’r gorau yn y byd ac yn ein hamddiffyn ni trwy'r mesurau iechyd anifeiliaid, planhigion a chemegol a galluogi ein cynnyrch i gael ei fasnachu ledled y byd. "

Dywedodd Mr Roberts fod y pryderon ynghylch y cynigion yn yr Alban yr un fath â'r rhai yng Nghymru, ac y byddai unrhyw waharddiad o'r fath yn niweidio ein buddiannau ni yn anfwriadol.

Rhaid darparu cyllid ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru y tu allan i fformiwla Barnett, meddai UAC

 

Mewn cyfarfod o’r Cyngor yn Aberystwyth, mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi lansio ei ymgyrch 'Cyllid Teg i Ffermwyr’ er mwyn tynnu sylw at yr angen ar frys i Lywodraeth y DU egluro cyllid ar gyfer y sector yng Nghymru.

Nod yr ymgyrch yw sicrhau cyllid teg i ffermwyr yng Nghymru ar ôl gadael yr UE, gan sicrhau nad yw'r diwydiant yn derbyn llai nag a wnaeth cyn i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae hefyd yn mynnu na ddylai arian ar gyfer ffermio fod yn unol â Fformiwla Barnett.

Wrth lansio'r ymgyrch ym Mhrif Gyngor yr Undeb, dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr, Alan Davies: "Yn hanesyddol, mae'r arian i gefnogi ffermio yng Nghymru wedi dod o'r Polisi Amaethyddol Cyffredin, ond unwaith y bydd y DU yn gadael yr UE ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf bydd y cyswllt hynny’n cael ei dorri.

"Bydd yn rhaid i unrhyw arian i gefnogi amaethyddiaeth ddod o Drysorlys y DU. Rydym eisoes wedi clywed y bydd y Llywodraeth yn ymrwymo'r un swm o arian i amaethyddiaeth ar gyfer gweddill tymor y senedd hon. Ond mae cymhlethdodau ynghylch sut bydd y cyllid hwnnw’n cael ei ddosbarthu.