Yn drist iawn, mae Meurig Voyle, un o hoelion wyth Undeb Amaethwyr Cymru, a benodwyd yn Swyddog Gweithredol Sir Dinbych yn ystod 1966, ac wedi hynny yn ystod 1968, bu’n gyfrifol hefyd am sir y Fflint wedi marw.
Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: "Mae'r byd amaethyddol wedi colli un o'i chefnogwyr mwyaf ac mae UAC wedi colli ffrind, ac aelod o’r teulu. Dywedodd wrthyf unwaith y bu’n briod ddwywaith, i’w wraig ac yna i UAC - roedd yn gymeriad unigryw. Bydd colled ddifrifol ar ôl Meurig ac mae ein meddyliau gyda'i deulu ar yr adeg anodd hon."
Addysgwyd Meurig Voyle yn Ysgol Gynradd Llanddarog ac Ysgol Ramadeg y Frenhines Elisabeth lle enillodd lliwiau rygbi’r ysgol.
Yn dilyn blwyddyn o ysgoloriaeth Ysgol Iau'r Weinyddiaeth yn Ysgol Amaethyddiaeth, Durham, ymunodd â'r Magnelwyr Brenhinol ac enillodd tystysgrif Cadlywydd Trefaldwyn yn y maes.
Mr Voyle oedd un o aelodau gwreiddiol Clwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Tywi, ac ar ôl y rhyfel, sefydlodd Clwb Ffermwyr Ifanc Llanddarog, ac ef oedd y Cadeirydd cyntaf.
Yn ddiweddarach, daeth yn Arweinydd y Clwb, ac yn ystod y cyfnod hwn, trefnodd y Clwb sioe amaethyddol, a elwir heddiw yn Sioe Amaethyddol Llanddarog a'r Ardal.
Cyn ymuno â UAC fel Ysgrifennydd Cynorthwyol Sirol ym 1961, cafodd ei gyflogi gan Fwrdd Marchnata Llaeth ac yn Hufenfa ‘Dairies United’ yng Nghaerfyrddin.
Ymddeolodd Mr Voyle o UAC yn ystod 1989 ond mi gadwodd mewn cysylltiad agos iawn â'r Undeb, a hyrwyddo’r Undeb yn ddiwyd drwy gyflwyno hanes sefydlu UAC i nifer o sefydliadau.
Roedd Mr Voyle, a oedd yn 93 oed, hefyd yn ffigwr cyfarwydd yn cyfarch ymwelwyr ym mhafiliwn Undeb yr UAC, ochr yn ochr â phrif gylch y Sioe Frenhinol, tasg a berfformiodd am 53 mlynedd yn rhinwedd ei swydd fel gofalwr pafiliwn yr Undeb, a cyn hynny yn y babell ar faes y sioe.
"Ers i’r Sioe Frenhinol symud i Lanfair-ym-Muallt, mynychodd Meurig bron bob sioe o 1963 hyd at 2017, heblaw am y cyfnod roedd ei wraig yn yr ysbyty, sy'n enghraifft arall o'i ymrwymiad mawr i UAC ac amaethyddiaeth.
"Mae'n bosibl mai ef yw'r unig berson gyflawnodd hyn. Fe wnaeth pawb ohonom ei golli eleni ac yn sicr ni fydd yr un fath hebddo," ychwanegodd Glyn Roberts.
Yn ystod 1991 cafodd ei anrhydeddu gyda Gwisg Werdd yr Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Yr Wyddgrug fel Meurig o Fyrddin.